Pam fyddai Andy yn fentor effeithiol

  • Mae gan Andy dros 40 mlynedd o brofiad ymarferol o weithio gyda da byw a ffermio tir âr a chaiff y profiad hwn ei roi ar waith wrth iddo ddatblygu ei fenter eifr.
  • Mae Andy’n llysgennad brwd dros feincnodi ac mae’n monitro perfformiad ei stoc a chynlluniau yn rheolaidd. Trwy fod yn aelod o Grŵp Agrisgôp Geifr Boer Cymreig, mae wedi gwneud cais am arian ar gyfer prosiect EIP newydd a fydd yn galluogi’r grŵp i wella perfformiad eu geifr a lleihau costau iechyd.
  • Creda Andy bod ei rôl flaenorol fel gwerthwr a rheolwr amaethyddol wedi ei baratoi’n dda ar gyfer ei rôl fel mentor, gan ddweud ei bod hi’n bwysig gwrando ac adnabod yr hyn sydd ei angen cyn cynnig arweiniad neu ddatrysiadau.
  • Mae gan Andy ddealltwriaeth dda o fusnes a gwerthiannau busnes, profiad a ddatblygodd trwy ei rôl bresennol a blaenorol yn gweithio gyda chyfanwerthwyr ac adwerthwyr.

Busnes fferm presennol

  • 35 o eifr magu a mynnod
  • Berchen daliad 10 erw ers 20 mlynedd
  • Wedi cynhyrchu cig a llysiau ei hunan yn y gorffennol yn ogystal â gwerthu da tew a chnufiau
  • Defnyddir EID i fonitro cynnydd pwysau byw a dilyn perfformiad yr anifeiliaid trwy gydol eu bywydau sydd wedi arwain at fuddion sylweddol o fewn y busnes
  • Yn gweithio gyda Chywain a Chanolfan Bwyd Cymru i ychwanegu gwerth i gig gafr

Cymwysterau / cyraeddiadau / profiad

  • Diploma Cenedlaethol mewn Amaethyddiaeth
  • Wedi derbyn hyfforddiant Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl yn ddiweddar
  • Wedi gweithio o fewn y sector llaeth a gweithio fel contractiwr tir glas
  • Rheoli fferm arbenigol yn cynhyrchu gwenith cribedig ar gyfer y diwydiant toi gwellt
  • Nifer o swyddi gwerthu a rheoli o fewn y diwydiant amaethyddol

 

AWGRYMIADAU DA AR GYFER LLWYDDIANT MEWN BUSNES

“Gwnewch eich gwaith cartref bob amser cyn i chi ymrwymo i fenter newydd a meddyliwch am bob elfen o’r broses – o’r fferm i’r plat”

“Costiwch eich amser a’ch adnoddau – efallai ni fydd y cyfleusterau sydd eu hangen arnoch er mwyn gwneud y fenter yn gynaliadwy ar gael yn lleol.”

“Siaradwch gyda phobl eraill sy’n gweithio o fewn yr un maes. Bydd y mwyafrif yn hapus i rannu eu profiadau, boed yn dda neu’n ddrwg, a byddwch yn dysgu llawer.”

“Gyda sylw at fanylder y daw llwyddiant.”