*Ni fydd Phil yn derbyn ceisiadau mentora newydd tan ddiwedd mis Mehefin.*
Pam fyddai Phil yn fentor effeithiol
- Mae gan Phil dros 30 mlynedd o brofiad yn y diwydiannau coed a choedwigaeth yng Nghymru yn ogystal ag yn datblygu marchnadoedd newydd ar gyfer tanwydd coed a charbon, ar ôl treulio’r rhan fwyaf o’i yrfa broffesiynol yng Nghymru. Mae cyfran helaeth o’i waith yn ymwneud yn uniongyrchol â ffermwyr, yn plannu coetir newydd ac yn rheoli’r coetir sy’n bodoli ar ffermydd yng Nghymru. Mae’n rheolwr fforestydd profiadol iawn ac yn ymgynghorydd coedwigaeth, yn gweithio ar hyn o bryd yn annibynnol ond gyda chwmnïau coedwigaeth preifat yn y gorffennol.
- Yn berchennog ar goetir 27 erw ger Aberystwyth mewn partneriaeth â chyd-berchennog arall mae Phil yn prydlesu coetir 136 erw hefyd ger Cwm Rheidol. Mae’r ddwy goedwig yn gymysg o ran rhywogaethau, yn gonwydd a llydanddail ac maent yn Blanhigfeydd a Safleoedd Coetir Hynafol sy’n cael eu hadfer.
- Yn ogystal â rheoli ei goetir ei hun, mae hefyd yn rheoli dros 3,700 erw ar draws Cymru fel rhan o’i fusnes rheoli coetir ac ymgynghori. Yn ei rôl mae’n ymdrin â llawer o wahanol goetiroedd, o greu coetir newydd i reoli coetiroedd rhannol aeddfed ac aeddfed dan y cynlluniau Coedwigaeth Gorchudd Parhaol a Thorri ac Ailblannu. Ond mae Phil yn arbenigo mewn trosi i Goedwigaeth Gorchudd Parhaol a gall gynnig mentora cynhwysfawr ar y pwnc hwn.
- Mae Phil yn deall cymhlethdodau rheoli coetiroedd llai a’r angen am elw oddi wrth goetir ar ffermydd. Cred y gall cyfuniad o weithio cost-effeithiol, peiriannau priodol, y farchnad garbon newydd, taliadau am nwyddau cyhoeddus a gwasanaethau ecosystemau wneud coetiroedd yn broffidiol ac ychwanegu at werth ffermydd.
- Mae Phil yn angerddol am ddangos sut y mae rheolaeth tir integredig yn cynnig manteision niferus ac yn cadw pobl ar y tir ac yn cefnogi cymunedau. Mae ganddo ddiddordeb mawr mewn ymchwil a throsglwyddo gwybodaeth ac yn awyddus i rannu ei wybodaeth.
- Gyda’i brofiad a’i wybodaeth eang, gall Phil roi cyfarwyddyd ar bob agwedd o blannu coetiroedd a’u rheoli.
- Mae gan Phil brofiad a gwybodaeth o ansawdd dŵr, gyda'i ffocws yn bennaf ar goed a choedwigwyr a'r effaith a gant, positif a negyddol, mewn gwahanol sefyllfaoedd. Mae Phil hefyd yn arbenigo mean llygredd amaethyddol sef lliniaru effaith llygredd gyda phlannu coed.
Busnes coedwigaeth presennol
- 27 erw yn eiddo iddo mewn partneriaeth, 136 erw ar rent – y ddau yn goetiroedd rhywogaethau cymysg, conwydd a llydanddail.
- Busnes ymgynghorol Rheoli Coetiroedd ac Ymgynghoriaeth Coetiroedd a sefydlwyd yn 1998
Cymwysterau / cyraeddiadau / profiad
- 1976 – 1977: Coedwigwr dan hyfforddiant, Office National des Forêts (ONF), Ffrainc
- 1977 – 1979: BSc Coedwigaeth, Prifysgol Aberdeen
- 1980 – 1984: Arolygydd Fforestydd, Anderson a Marsden
- 1984 – 1987: Dirprwy Reolwr, SK Timber
- 1987 – 1989: Dirprwy Reolwr Cangen - Carliwelydd, Tilhill Forestry
- 1989 – 1997: Rheolwr Coedwigaeth Ardal, Shotton Forest Management
- 1998 - presennol: Cyfarwyddwr, Sustainable Forest Management & SelectFor Ltd
- 2006: Aelod, Panel Cynghori Strategaeth Coetir Cymru (WASP)
- 2016: Aelod, Grŵp Cynghori Coed Cymru
- 2016: Cadeirydd, Irregular Silviculture Network (ISN)
AWGRYMIADAU DA AR GYFER LLWYDDIANT MEWN BUSNES
“Crëwch goetir amrywiol i reoli risg.”
“Canolbwyntiwch ar gynhyrchu o safon.”
“Gwnewch yr holl weithrediadau coedwigaeth yn gost-effeithiol.”