Cyfle #107

Ger Llanelli

25 Ha / 60 erw


Proffil Darparwr

(Amlinelliad o’r cyfle sy’n cael ei ddarparu)

 

Cwblhewch y ffurflen yma er mwyn ymgeisio am y cyfle yma: Ymgeisiwch heddiw am y cyfle yma

Rhif Cyfeirnod Mentro: 107

Manylion y Tirfeddiannwr:

65-75 oed

Siaradwr Cymraeg

Mae gen i ddiddordeb mewn gwarchod bywyd gwyllt a chefn gwlad. Yn y 15 mlynedd rwyf wedi bod yma rwyf wedi ceisio ffermio gan ystyried hynny, roedd Mam a minnau wedi plannu coed o dan gynllun creu coetir newydd Glastir, mae coetir llydanddail aeddfed yma hefyd. Mae gen i ddiddordeb hefyd mewn gwarchod yr hen fridiau o dda byw Prydeinig ac yn aelod o’r RBST. Oherwydd iechyd gwael ac ieuenctid fy ŵyr mae gen i ddiddordeb mewn cael unigolyn ifanc sydd â golwg tebyg ar fywyd a ffermio yn yr un modd. Mae gen i 4 asyn a chaseg cob Cymreig cofrestredig gan fy mod wedi bwriadu agor math o fferm ofal.

Fy nodau ar gyfer y 5 mlynedd nesaf:

  1. Rwyf eisiau cadw gafael ar y fferm rhag ofn i un o fy wyrion ddangos diddordeb mewn parhau i ffermio.
  2. Rhoi cyfle i unigolyn ifanc sydd â’r un diddordebau â mi.
  3. Camu yn ôl o redeg y fferm o ddydd i ddydd.

Manylion y fferm:

Lleoliad (tref agosaf): Llanelli
Arwynebedd y tir sydd ar gael: tua 60 erw / 25 Ha
Isadeiledd sydd ar gael: Ar gyfer yr unigolyn cywir mae buarth gyda craets i drin anifeiliaid, a rhai adeiladau y gellid eu darparu i gadw defaid neu wartheg.
Da byw ar gael: 4 asyn ac 1 ceffyl. Hapus i gynyddu nifer y da byw.

Peiriannau sydd ar gael: Rholiwr

Llety ar gyfer un sy’n chwilio am gyfle: Na. Bydd angen i'r sawl sy’n chwilio am gyfle ddod o hyd i lety yn rhywle arall.

Yr ardal leol:

Mae Pontyberem yn bentref glofaol gydag ysgol gynradd, eglwys ac archfarchnadoedd gyda gwasanaeth bws aml i Gaerfyrddin a Llanelli. Mae'n goediog iawn ac yn llawn hanes, bu Terfysgwyr Beca yn weithgar iawn yn yr ardal hon tua diwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg ac roeddent yn arfer cwrdd yn yr ysgubor yma ac ar Fynydd Sylen gerllaw.

Manylion y cyfle:

Math o gytundeb sy’n cael ei ystyried? 
Mwy o annibyniaeth i'r Darparwr (tirfeddiannwr): Cytundeb trwydded
Mwy o annibyniaeth i unigolion sy’n chwilio am gyfle: Tenantiaeth

Nodweddion allweddol y byddwn yn edrych amdanynt mewn partner busnes: Gonestrwydd ac Uniondeb