Wenvoe, Caerdydd

Prosiect Safle Ffocws: Prosiect ymwybyddiaeth o driniaeth wrthfiotig

Nodau’r prosiect:

  • Lleihau defnydd diangen o driniaeth wrthfiotig, ac i sicrhau defnydd diogel o wrthfiotigau ar ffermydd llaeth yng Nghymru.
  • Bydd y prosiect yn casglu data ar y cyffuriau a brynir bob blwyddyn gan grŵp o ffermwyr, dan arweiniad fferm Goldsland, a fydd yn darparu gwybodaeth ynglŷn â’r cyffuriau y maent yn eu prynu nawr ac yn y gorffennol. Bydd y data yn amlygu ble a phryd y defnyddir gwrthfiotigau ar y ffermydd hynny. Bydd hyn yn helpu’r ffermydd i ganolbwyntio ar ble y defnyddir y rhan fwyaf o wrthfiotigau gan arwain at drafodaethau gyda’u milfeddygon i leihau’r niferoedd.
  • Bydd pob fferm sy’n rhan o’r prosiect yn meincnodi i alluogi trafodaeth ynglŷn â dewisiadau a strategaethau eraill i leihau’r angen i ddefnyddio gwrthfiotigau, a hefyd i addysgu ffermwyr ynglŷn â’r math o wrthfiotigau a ddefnyddir ganddynt.
  • Bydd y prosiect yn cynorthwyo i ddiogelu’r defnydd o driniaethau gwrthficrobaidd sydd mewn perygl ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol, ac yn ceisio lleihau costau cynhyrchu litr o laeth a gwella iechyd a lles y fuches yn gyffredinol ar yr un pryd.

Prosiectau cysylltiedig Ein Ffermydd

Moelogan Fawr
Llion a Sian Jones Moelogan Fawr, Llanrwst, Conwy Meysydd
Hendre Ifan Goch
Rhys Edwards Hendre Ifan Goch, Pen-y-bont ar Ogwr ​​ Meysydd
Bodwi
Edward, Jackie a Ellis Griffith Bodwi, Mynytho, Pwllheli, Gwynedd