Cyfle arall i glywed trafodaeth yn ystod y digwyddiad hwn ar fferm Glascoed.  Bydd yr arbenigwraig defaid, Kate Phillips yn arwain y drafodaeth rhwng Alwyn a Dylan Nutting ac yn son am ganfyddiadau’r adolygiad a gynhaliwyd ar fferm Glascoed i nodi cyfleoedd ar gyfer optimeiddio pellach a’u cynlluniau ar gyfer y dyfodol. Bydd Alwyn a Dylan yn rhannu sut mae gwneud y defnydd gorau o borthiant ac ymgorffori gwndwn aml-rywogaeth yn eu rhaglen bori cylchdro wedi chwarae rhan mewn cyflawni gostyngiad nodedig mewn mewnbynnau allanol wrth gynnal lefelau cynhyrchu. Yn ymuno hefyd yn y sgwrs bydd Non Williams, Swyddog Arbenigol Carbon Cyswllt Ffermio a fydd yn trafod y cysylltiad rhwng gwella effeithlonrwydd cyffredinol fferm a’i hôl troed carbon.

Rydym yn ymddiheurio nad yw ansawdd y sain yn ddelfrydol yn y rhifyn yma gan fod hi'n ddwrnod gwyntog iawn ar fferm Glascoed

 


Related Newyddion a Digwyddiadau

Rhifyn 104 - Beth yw pridd iach?
Gwrandewch ar y recordiad yma o ddigwyddiad fferm Pentrefelin
Rhifyn 103 - Cloffni mewn gwartheg llaeth
Sut mae gwahanol ddulliau o drosglwyddo gwybodaeth yn dylanwadu
Rhifyn 102 - Cael y gorau o silwair adeg wyna - mae'r cynllunio ar arolygu yn dechrau nawr - Rhan 2
Croeso i Glust i'r Ddaear. Mae hon yn bennod dwy ran sy’n