19.06.2024
08:30yb - 6:00yh
Mae digwyddiad hynod lwyddiannus Merched mewn Amaeth gan Cyswllt Ffermio yn ôl, ac eleni mae ar daith!
Ymunwch â ni am deithiau unigryw.
Dewch i ymweld â rhai o ffermydd a busnesau gwledig mwyaf llwyddiannus, a chlywed storiâu ysbrydoledig yn uniongyrchol gan entrepreneuriaid benywaidd a theuluoedd sy’n ffermio sy’n eu rhedeg.
Dyma’r hyn y gallwch ei ddisgwyl:
- Rhwydweithio a Dysgu: Cwrdd â merched o wahanol feysydd amaeth a bywyd gwledig
- Ymweliadau: Edrych ar ffermydd, mentrau sydd wedi arallgyfeirio a busnesau arloesol
- Clywed gan yr Arbenigwyr: Cael mewnwelediad gan berchnogion busnes a ffermwyr llwyddiannus
- Cwrdd â’r Swyddog Datblygu Lleol: Dysgu mwy am y cymorth sydd ar gael i’ch busnes gan Cyswllt Ffermio
Dyma gyfle i gael eich ysbrydoli, dysgu strategaethau newydd, a chysylltu â merched eraill mewn amaeth.
Ychydig o leoedd sydd ar gael, felly cofrestrwch heddiw!
Am ragor o wybodaeth neu i gofrestru, ewch ar wefan Cyswllt Ffermio neu cysylltwch â’r tîm digwyddiadau - fcevents@menterabusnes.co.uk