Academi Amaeth
Wyt ti’n frwdfrydig dros ffermio a dy ddyfodol? Os felly, dyma dy amser di…
Mae Academi Amaeth Cyswllt Ffermio yn anelu at:
- Wella eich dealltwriaeth o faterion sy'n effeithio ar lwyddiant eich busnes
- Gwella eich ymwybyddiaeth o'r cyfleoedd a’r bygythiadau sy'n wynebu eich busnes yn y dyfodol
- Cefnogi datblygiad personol trwy weithdai a seminarau
- Cynnig cyfle i gwrdd ag arbenigwyr ac arweinwyr busnes yn y diwydiant
- Creu amgylchedd i wella sgiliau rheoli busnes
- Adeiladu rhwydwwaith o’r busnesau amaethyddol mwyaf blaengar yng Nghymru
Bydd ymgeiswyr yn derbyn cefnogaeth un-i-un gan fentor profiadol. Bydd ‘Her yr Academi’ yn cynnwys paratoi cynllun rheoli ar gyfer fferm deuluol sy’n gweithio.
Mae ffenestr ymgeisio ar gyfer Academi Amaeth 2024 yn awr ar gau.
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
*Mae posibilrwydd y gallai lleoliadau ar gyfer y teithiau astudio tramor newid o ganlyniad i ffactorau allanol.
Rhaid i ymgeiswyr ar gyfer yr Academi Amaeth fod dros 21 oed. Gall ymgeiswyr o dan 21 oed wneud cais am Academi yr Ifanc. Rhaid i bob ymgeisydd fod wedi cofrestru gyda Cyswllt Ffermio a rhaid iddynt gwblhau Cynllun Datblygu Personol ar eu cyfrif BOSS.
PWYSIG - rhaid i ymgeiswyr fynychu pob un o'r sesiynau uchod a rhaid iddynt gael pasbort sy'n ddilys am o leiaf 6 mis ar ôl yr ymweliad astudio. Gall methu ag ymrwymo'n llawn i holl brofiad yr Academi Amaeth arwain at gael eich diarddel o'r rhaglen a gorchymyn i ad-dalu costau'r daith. Ni all aelodau fod yn absennol o sesiynau preswyl, oni bai bod unrhyw un o’r canlynol yn berthnasol
- Profedigaeth agos yn y teulu
- Salwch personol a nodyn meddyg dilys
- Cyfrifoldebau gofal brys ac anochel am ddibynnydd
Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â'ch Swyddog Datblygu Lleol