Y Gweinidog yn diolch i werthwyr a chynhyrchwyr o Gymru sydd wedi parhau i ddarparu bwyd i’w cymunedau ac wedi bwydo staff y GIG yn ystod y cyfyngiadau symud
Mae Lesley Griffiths, Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, wedi diolch i werthwyr bwyd a diod annibynnol sydd wedi cadw’r cadwyni cyflenwi lleol yn llifo ac wedi cefnogi staff y GIG yn ystod y pandemig.