Gweinidog yn dathlu llwyddiant sector diodydd y Gogledd wrth inni adael yr UE
Mae'r ffigurau diweddaraf ar gyfer y diwydiant yn dangos bod trosiant sector bwyd a diod Cymru yn fwy nag erioed o'r blaen yn 2019, gan gyrraedd £7.473 biliwn. Roedd yn rhagori ar y targed uchelgeisiol a osodwyd yn 2014, sef sicrhau twf o 30% a gwerthiant o £7 biliwn erbyn 2020. Yn 2018, aeth 73% o'r holl fwyd a diod a allforiwyd o Gymru i'r Undeb Ewropeaidd.