Rydym ni’n defnyddio JavaScript i osod y rhan fwyaf o’n cwcis. Yn anffodus, nid yw JavaScript yn rhedeg ar eich porwr, felly ni allwch newid eich gosodiadau trwy ddefnyddio’r dudalen hon. I reoli eich gosodiadau cwcis trwy ddefnyddio’r dudalen hon, rhowch gynnig ar droi JavaScript ymlaen yn eich porwr.
Mae gan Gymru gysylltiad â Gulfood, sef un o ddigwyddiadau masnach bwyd mwyaf y byd, ers blynyddoedd, ac mae wedi helpu dod â chyfoeth o gynnyrch Cymreig i ranbarth Cyngor Cydweithredol y Gwlff.
Mae ffigurau diweddaraf y diwydiant yn dangos y gwelwyd y trosiant uchaf erioed, sef £7.473 biliwn, yn 2019, sy'n rhagori ar y targed uchelgeisiol a osodwyd yn 2014 o dwf o 30% a gwerthiant o £7 biliwn erbyn 2020. Yn 2018, aeth 73% o holl allforion bwyd Cymru i'r Undeb Ewropeaidd.
Mae Lesley Griffiths, Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, wedi llongyfarch Sector Bwyd a Diod llewyrchus Cymru am lwyddo i sicrhau'r trosiant mwyaf erioed.
Yn 2014 cyhoeddodd Llywodraeth Cymru gynllun gweithredu ar gyfer bwyd a diod, ‘Tuag at Dwf Cynaliadwy’. Roedd y cynllun hwnnw’n amlinellu gweledigaeth, cenhadaeth a chynllun hirdymor gyda chamau gweithredu er mwyn eu gwireddu.
Ymgynhorodd Llywodraeth Cymru a Bwrdd Diwydiant Bwyd a Diod Cymru am gyllun strategol newydd dros y sector. Roedd yn blesur derbyn ymatebion gyda chymaint o ddiddordeb ac rydym yn diolch i bawb a ymatebodd. Rydym wedi cyhoeddi adroddiad sy’n crynhoi ymatebion.
Mae Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig wedi cyhoeddi y bydd prif arddangosfa fwyd a diod Cymru, BlasCymru/TasteWales yn cael ei chynnal ar 10 a 11 Mawrth 2021 yng Nghanolfan Gynadledda Ryngwladol Cymru (ICC) yng Nghaerllion.
Bydd cynhyrchwyr bwyd a diod Cymreig yn ceisio cryfhau a chreu cysylltiadau gyda darpar bartneriaid a buddsoddwyr wrth iddyn nhw ymweld â Qatar fis nesaf.