Heddiw, lansiodd Christine Tacon ymchwiliad Co-operative Group Limited, ar ôl ffurfio amheuaeth resymol efallai bod y manwerthwr wedi torri y Cod Ymarfer Cyflenwi Bwydydd (y Cod).
Cwsmeriaid yn cael eu herio wrth gyhoeddi’r dathliad bwyd a diod Cymreig mwyaf erioed ar gyfer Dydd Gŵyl Dewi eleni #GwladGwlad
Ni fu erioed amser gwell i fwyd a diod Cymreig, gyda’r nifer o gynhyrchion sy’n derbyn statws enw bwyd gwarchodedig Ewropeaidd bron â dyblu yn y flwyddyn ddiwethaf, a’r nifer o enwebiadau am wobrau mawreddog Great Taste Awards yn cyrraedd y nifer mwyaf erioed.
Cwmnïau bwyd o Gymru yn teithio i Dubai yn chwilio am gyfleoedd allforio newydd
Mae cwmnïau bwyd a diod o Gymru yn paratoi i fynychu un o ddigwyddiadau masnach bwyd mwyaf y byd yn Dubai, Emiradau Arabaidd Unedig rhwng 18 a 22 Chwefror. Yn cael ei gynnal yng Nghanolfan Fasnach y Byd yn Dubai, bydd Gulfood yn denu dros 97,000 o ymwelwyr dros y pum diwrnod, ac yn croesawu mwy na 5,000 o arddangoswyr o 120 o wledydd gan arddangos cynhyrchion ar draws 8 sector marchnad sylfaenol.
‘Adduned’ y diwydiant bwyd a diod i hybu sgiliau
Bydd strategaeth sgiliau newydd yn cael ei lansio’n ddiweddarach yr wythnos yma wrth i aelodau blaenllaw o’r diwydiant bwyd a diod geisio hybu sgiliau a denu’r genhedlaeth nesaf o weithwyr. Wrth i werth y sector barhau i dyfu, mae Bwrdd Diwydiant Bwyd a Diod Cymru wedi ymgynghori’n eang ar gyfer creu’r strategaeth sgiliau gyntaf dan arweiniad y diwydiant er mwyn mynd i’r afael â’r problemau sydd ar y gorwel yn sgîl gweithlu sy’n heneiddio, anhawster...
Caws enwog Caerffili yn cael ei warchod yn Ewrop
O heddiw ymlaen, bydd Caws Caerffili yn cael ei warchod gan statws Dynodiad Daearyddol Gwarchodedig (PGI) Ewrop, sy'n un o dri dynodiad arbennig Enwau Bwyd Gwarchodedig (PFN) Ewrop. O dan gynllun enwau bwyd gwarchodedig yr Undeb Ewropeaidd, mae rhai bwyd a diod yn cael eu gwarchod yn gyfreithiol ar draws Ewrop rhag cael eu copïo a'u camddefnyddio, a rhag twyll. Caws Caerffili yw'r cyntaf yng Nghymru i gael y statws hwn ac mae'n ymuno â...
Busnesau bwyd yn cael eu hannog i ddathlu Dydd Gŵyl Dewi
Wrth i Ddydd Gŵyl Dewi agosau (1 Mawrth) mae busnesau bwyd ledled y DU yn cael eu hannog i fanteisio i’r eithaf ar y diddordeb cynyddol ym mwyd a diod Cymru. I hyrwyddo eu hymgyrch Dydd Gŵyl Dewi, mae Bwyd a Diod Cymru Llywodraeth Cymru wedi datblygu pecyn cymorth i helpu busnesau hyrwyddo bwyd a diod Cymreig fel rhan o’r dathliadau. Mae’r pecyn cymorth yn cynnwys cyngor ag awgrymiadau defnyddiol ar sut y gall busnesau...
Codwch eich gwydrau: Sector Bwyd a Diod Cymru yn agosáu at gyrraedd y targedau ar gyfer 2020 yn gynnar
Mae trosiant y Sector Bwyd a Diod wedi cynyddu yn sylweddol i £6.9bn, sy’n golygu bod y diwydiant bron iawn â chyrraedd y targedau uchelgeisiol a osodwyd iddynt. Yn y Cyfarfod Llawn, dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig, Lesley Griffiths, bod y diwydiant yn ffynnu, ac ar fin cyrraedd y targed o £7bn o drosiant erbyn 2020. Bu Ysgrifennydd y Cabinet yn siarad am yr heriau a’r cyfleoedd a ddaw i’r...
8 o bob 10 siopwr yn ffafrio cynnyrch o Gymru meddai Adroddiad
Mae 8 o bob 10 siopwr yng Nghymru'n credu bod bwyd a diod o Gymru o Ansawdd Gwych, yn Blasu'n Wych ac y bydden nhw wastad yn prynu cynnyrch o Gymru pe bai'r pris yn iawn. Dyma rai o brif gasgliadau adroddiad newydd gan Fwyd a Diod Cymru ar 'Werth Cymreictod'. Mae'r canfyddiadau eraill yn cynnwys: Mae siopwyr y tu allan i Gymru'n credu bod Cymru'n adnabyddus am ansawdd ei bwyd a'i diod a'u bod...
Bydd Gŵyl Conwy yn wledd i gynhyrchion Gwarchodedig Cymru
Bydd bwydgarwyr o bob cwr o ogledd Cymru a thu hwnt yn anelu am Wledd Conwy yn nes ymlaen y mis yma (28-29 Hydref) ac ochr yn ochr â nhw cynhyrchwyr rhai o gynhyrchion mwyaf eiconig Cymru. Yn cael sylw arbennig yng Ngwledd Conwy bydd ‘teulu’ cynyddol cynhyrchion o Gymru a ddiogelir o dan gynllun Enwau Bwyd Gwarchodedig yr Undeb Ewropeaidd. Bydd y cynhyrchion amrywiol hyn yn camu i’r sbotolau mewn arddangosfeydd, arddangosiadau a sesiynau...
Cynhyrchydd wyau yn euog o dwyll ac yn cael gorchymyn i ad-dalu £84,000
Pan ymddangosodd Mr John Edward Morgan, cynhyrchydd wyau o'r Canolbarth, gerbron Llys y Goron Abertawe ar 20 Medi mewn perthynas â chais a wnaed gan Lywodraeth Cymru o dan Ddeddf Enillion Troseddau 2002, rhoddwyd gorchymyn iddo ad-dalu £84,331.18 neu wynebu 12 mis o garchar. Ym mis Ionawr eleni, roedd Mr Morgan wedi cael dedfryd o 18 mis o garchar, wedi'i gohirio am ddwy flynedd, ar ôl pledio'n euog i dwyll drwy wneud ymhoniadau anwir, a...