Rydym ni’n defnyddio JavaScript i osod y rhan fwyaf o’n cwcis. Yn anffodus, nid yw JavaScript yn rhedeg ar eich porwr, felly ni allwch newid eich gosodiadau trwy ddefnyddio’r dudalen hon. I reoli eich gosodiadau cwcis trwy ddefnyddio’r dudalen hon, rhowch gynnig ar droi JavaScript ymlaen yn eich porwr.
Mae diwydiant bwyd a diod Cymru o’r radd flaenaf ac mae cyfres o gamau â blaenoriaeth i’w helpu i adfer o effeithiau COVID-19 wedi cael ei chyhoeddi heddiw [dydd Mercher 29 Gorffennaf, ar y cyd gan Lywodraeth Cymru a Bwrdd y Diwydiant Bwyd a Diod.
Ar ôl ymuno â'u gweminar fasnach rithwir gyntaf yn ystod y cyfnod cloi, mae becws yn Sir Ddinbych, Henllan Bread, wedi cael llwyddiant ysgubol wrth sicrhau cytundeb tri mis i gyflenwi cadwyn archfarchnad yn Qatar gyda’r gobaith o lwyddo mewn rhanbarthau eraill hefyd.
Am nad oes modd cynnal digwyddiadau bwyd traddodiadol yr haf hwn, mae nifer o gynhyrchwyr bwyd a diod Cymru wedi gorfod meddwl am ffyrdd eraill o gyrraedd y cyhoedd. O ganlyniad, mae pobl ledled Cymru’n trefnu cynnal digwyddiadau bwyd ‘rhithwir’ ar-lein.
Mae Bwrdd Diwydiant Bwyd a Diod Cy Cymru yn eich gwahodd i ymuno â gweminar i ddeall sut y gall y cymorth yswiriant credyd masnach a gefnogir gan y llywodraeth helpu eich busnes. Mae pandemig Covid-19 wedi bod yn hynod o heriol i fusnesau bwyd a diod, yn enwedig y rhai sy’n gweithio yn y maes gwasanaeth bwyd.