Dywed llais sector bwyd a diod Cymru (Bwrdd Diwydiant Bwyd a Diod Cymru) fod busnes yn ffynnu yng Nghymru diolch i enw da Cymru am gynhyrchu cynnyrch ffres a naturiol. Mae’n dweud hefyd a bod cwsmeriaid o bob rhan o wledydd Prydain yn galw am gael rhagor o gynnyrch o Gymru ar silffoedd yr archfarchnadoedd. Dyma ddywed ymchwil a gyhoeddwyd yn adroddiad ‘Gwerth Cymreictod’ sy’n dangos fod galw cryf gan siopwyr o bob rhan o...
Cynllun Gweithredu newydd ar gyfer y diwydiant Bwyd a Diod
Heddiw, cyhoeddodd Lesley Griffiths, Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig, fod Llywodraeth Cymru eisoes yn cydweithio â Bwrdd Diwydiant Bwyd a Diod Cymru i lunio cynllun gweithredu newydd i’r Diwydiant. Gan siarad yng nghyfarfod Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig y Cynulliad Cenedlaethol, cadarnhaodd Ysgrifennydd y Cabinet y bydd y cynllun newydd yn datblygu llwyddiant ‘Tuag at Dwf Cynaliadwy’ sy’n dod i ben ym mis Rhagfyr 2019. Fe wnaeth Ysgrifennydd y...
Prynwyr cenedlaethol a rhyngwladol yn gobeithio sicrhau bargeinion bwyd a diod yn Sioe Frenhinol Cymru
Mae dros 170 o brynwyr masnach sy’n cynrychioli rhai o siopau manwerthu mwyaf Ewrop yn barod i wneud busnes â llawer o gynhyrchwyr yn Lolfa Fusnes Bwyd a Diod Cymru uwchben y Neuadd Fwyd yn Sioe Frenhinol Cymru eleni yn Llanelwedd. Dyma’r bumed flwyddyn i Lywodraeth Cymru reoli’r Lolfa Fusnes, sy’n dod â chynhyrchwyr a phrynwyr at ei gilydd yn Sioe Frenhinol Cymru rhwng dydd Llun 23 a dydd Iau 26 Gorffennaf 2018. Bydd cynnyrch...
Digwyddiad trosglwyddo gwybodaeth 'rhydd rhag'
Bydd y digwyddiad hwn sydd am ddim yn cwmpasu materion allweddol yn ymwneud â bwyd a diod 'rhydd rhag' gan gynnwys dadansoddi'r farchnad, gwybodaeth arwyddocaol i ddefnyddwyr, ystyriaethau technegol a thueddiadau'r dyfodol. Mae'r farchnad 'rhydd rhag' bwyd a diod yn ffynnu yng Nghymru a Phrydain Fawr gan fod nifer y bobl sydd â symptomau o anoddefiad bwyd wedi cynyddu’n sylweddol dros y blynyddoedd diwethaf. Dyma eich cyfle i ddod o hyd i ragor o wybodaeth...
Teithwyr yn Paddington yn cael blas ar fwyd a diod o Gymru
Mae teithwyr yn Paddington yn mynd i gael cyfle i flasu ac i brynu rhai o'r cynhyrchion bwyd a diod gorau o Gymru mewn sioe a fydd yn cael ei chynnal yn yr orsaf ddydd Iau, 14 Mehefin. Fe fydd y Prif Weinidog yn galw mewn i ymweld â’r wyth cwmni bwyd a diod o Gymru sy’n arddangos eu cynhyrchion yn yr orsaf ac sy’n cynnig cyfle i'r teithwyr flasu a phrynu amrywiaeth o gynnyrch...
Bwyd a Diod Cymru Cwrdd a'r Buddsoddwr - De Cymru
Ydych chi'n chwilio am fuddsoddiad neu gyllid ar gyfer eich busnes bwyd neu ddiod? Cliciwch yma am fwy o wybodaeth
Bwyd a Diod Cymru Cwrdd a'r Buddsoddwr - Gogledd Cymru
Ydych chi'n chwilio am fuddsoddiad neu gyllid ar gyfer eich busnes bwyd neu ddiod?
Cadwch y Dyddiad: Trosglwyddo Gwybodaeth Protein Gwyrdd
Nod y digwyddiad hwn yw trafod materion allweddol sy'n ymwneud â ffynonellau protein, gyda mewnwelediadau gwerthfawr i agweddau defnyddwyr ac i archwilio rhai o'r proteinau arall sydd ar gael yn cynnwys chwyn môr ac algâu.
Cynhyrchion bwyd a diod arloesol o Gymru i’w gweld mewn arddangosfa fasnach flaenllaw
Bydd rhai o gwmnïau bwyd a diod gorau Cymru yn mynychu arddangosfa fasnach fwyaf y DU ym Mirmingham canol mis yma. Bydd dros 1,500 o arddangoswyr yn mynychu’r digwyddiad tri diwrnod, Food & Drink Expo yn yr NEC o ddydd Llun 16 Ebrill i ddydd Mercher 18 Ebrill. Bydd naw ar hugain o gwmnïau yn rhan o stondin Cymru, a bydd nifer ohonynt yn dadorchuddio cynhyrchion newydd ac arloesol. Mae’r rhain yn cynnwys Princes Gate...
Cynllun Peilot Grant Cyfieithu Iaith Dramor
Rydym yn cydnabod fod yr angen i gael deunydd gwerthu a marchnata, pecynnu i gynnyrch, gwefan, ac ati ar gael yn iaith marchnad y cyrchfan allforio yn gallu bod yn ddrud ac felly’n rhwystr i sicrhau archebion allforio. Felly, rydym yn treialu grant bach i helpu anghenion cyfieithu 20 o fusnesau.