Rydym ni’n defnyddio JavaScript i osod y rhan fwyaf o’n cwcis. Yn anffodus, nid yw JavaScript yn rhedeg ar eich porwr, felly ni allwch newid eich gosodiadau trwy ddefnyddio’r dudalen hon. I reoli eich gosodiadau cwcis trwy ddefnyddio’r dudalen hon, rhowch gynnig ar droi JavaScript ymlaen yn eich porwr.
Gyda dros 150 o gynhyrchion o Gymru yn cael eu cydnabod yn gynharach eleni yng ngwobrau mawreddog Great Taste, bydd Ysgrifennydd Cabinet Llywodraeth Cymru dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig, Lesley Griffiths AC yn cynnal dathliad yng Ngwesty Dewi Sant, Caerdydd ddydd Mawrth Tachwedd 2018.
Mae recriwtio ar y gweill erbyn hyn i arddangos gyda Llywodraeth Cymru o dan fanner Cymru yn sioe SIAL, Paris 21 - 25 Hydref 2018. Nodwch y dyddiad cau ar gyfer derbyn eich ffurflen cais i arddangos yw'r 18 Mai 2018.
Mae llu o gwmnïau bwyd a diod o Gymru yn paratoi i fynychu un o brif arddangosfeydd arloesedd bwyd y byd ym Mharis yn ddiweddarach y mis yma (21-25 Hydref 2018). Y Salon International de l’Alimentation (SIAL), a gynhelir bob dwy flynedd, yw’r arddangosfa fwyaf yn y byd o arloesedd bwyd a bydd yn cynnwys mwy na 7,000 o gwmnïau o 109 o wledydd. Gyda’r bwriad o godi proffil rhyngwladol y diwydiant, bydd dirprwyaeth Bwyd...
Princes fydd y prif noddwr wrth iddynt ddatgelu cynlluniau i drawsnewid eu safle gynhyrchu yng Nghaerdydd yn ‘Ganolfan Ragoriaeth Diodydd Meddal’ Mae ffigyrau newydd yn dangos yr arweiniodd digwyddiad BlasCymru / TasteWales cyntaf at £14miliwn o werthiannau ychwanegol i fusnesau bwyd a diod Cymru
Bydd cynhyrchwyr bwyd a diod o Gymru yn ceisio atgyfnerthu ac adeiladu cysylltiadau gyda darpar bartneriaid a buddsoddwyr pan fyddant yn ymweld â Qatar yr wythnos hon. Fel rhan o Ymweliad Datblygu Masnach Bwyd a Diod Cymru Llywodraeth Cymru o 29 Medi - 3 Hydref, bydd deg o gwmnïau bwyd a diod o Gymru yn cael y cyfle i arddangos eu cynnyrch i lu o ddosbarthwyr a phrynwyr manwerthu, pob un yn ceisio sicrhau busnes...
Mae'r cwmni cawsiau o Geredigion, Caws Teifi Cheese, yn dathlu ar ôl ennill un o'r gwobrau mwyaf adnabyddus y diwydiant bwyd a diod. Neithiwr, yn Llundain, cynhaliwyd gwobrau’r Great Taste, y cyfeirir atynt fel ‘Oscars’ y byd bwyd, a chafodd caws Celtic Promise y cwmni ei goroni â'r Fforc Aur o Gymru.
Mae cwmnïau bwyd a diod ar draws Cymru’n dathlu ar ôl sicrhau llwyddiant yng ngwobrau Great Taste y DU eleni, gan brofi unwaith eto bod gan fwyd a diod o Gymru enw da haeddiannol am ansawdd a blas.
Rhifau stondyn Cymru - 1916/2016 & 1920/2020 Bydd cwmnïau bwyd a diod artisan o Gymru’n dadlennu llu o gynhyrchion newydd cyffrous yn y Speciality & Fine Food Fair eleni.
Mae 1 Awst yn gychwyn swyddogol ar dymor Cig Oen Cymru PGI gyda Calan Oen Mae’r chef enwog o Gymru Bryn Williams yn lansio ymgyrch ‘Cig Oen. O Gymru wrth gwrs’ sy’n amlygu ansawdd ac amlbwrpasedd y cig Caiff Borough Market ei llenwi gan gynhyrchwyr Cymreig wrth iddynt arddangos eu cynnyrch ynghyd ag arddangosiadau amrywiol o goginio a bwydydd i’w blasu Ag yntau’n cael ei ddathlu ar 1 Awst bob blwyddyn, mae Calan Oen yn...