Rydym ni’n defnyddio JavaScript i osod y rhan fwyaf o’n cwcis. Yn anffodus, nid yw JavaScript yn rhedeg ar eich porwr, felly ni allwch newid eich gosodiadau trwy ddefnyddio’r dudalen hon. I reoli eich gosodiadau cwcis trwy ddefnyddio’r dudalen hon, rhowch gynnig ar droi JavaScript ymlaen yn eich porwr.
Bydd cefnogaeth busnesau bach Cymru i gymunedau yn ystod pandemig C-19 yn cael ei dathlu mewn ffilm - diolch i brosiect Garddwriaeth Cymru Prifysgol Glyndŵr Wrecsam.
Sicrhau bod cynhyrchwyr bwyd a diod gogledd Cymru yn rhan ganolog o gynlluniau adfer wedi’r pandemig oedd prif neges cynhadledd rithiol gynhaliwyd yr wythnos hon.
Yn ystod y cyfnod anodd hwn i fusnesau, mae Ridiculously Rich by Alana, busnes cacennau moethus sy'n eiddo i enillydd rhaglen Apprentice y BBC yn 2016, Alana Spencer, yn tyfu ac yn ehangu diolch i gymorth a chefnogaeth gan Ganolfan Bwyd Cymru.
Mae cydweithio a chymorth sy'n rhoi hwb i forâl yn helpu cwmnïau bwyd a diod yng Nghymru i oresgyn sialensiau Covid-19 ac i gynnal eu ffyrdd llwyddiannus.
Mae gwobrau’r Great Taste, a gydnabyddir fel gwobrau bwyd a diod pwysicaf y byd, wedi cyhoeddi eu sêr yn 2020, ac mae llu o gynhyrchion bwyd a diod Cymreig blasus wedi cyrraedd y brig.
Rhan o gefnogaeth y llywodraeth i fusnesau yn ystod y pandemig fu rhyddhau'r lefelau uchaf erioed o gyllid dyled i'r economi i helpu busnesau i fasnachu trwy'r argyfwng. Ymunwch a'n panel o arbenigwyr cyllid ecwiti i ddarganfod mwy.
Dechreuodd cynllun peilot o astudiaeth clwstwr rhyngwladol ar gyfer y busnesau bwyd a diod yng Nghymru ar 18fed Medi fel rhan o strategaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer y sector bwyd a diod, er mwyn datblygu a defnyddio ein partneriaethau Ewropeaidd ymhellach.
Bydd Llywodraeth Cymru’n lansio ymgynghoriad cyhoeddus rhithiol ar ei Chynllun Gweithgynhyrchu. Bydd y cynllun yma’n seiliedig ar egwyddorion Ffyniant i Bawb a’r Cynllun Gweithredu ar yr Economi ac yn amgyffred gwersi a ddysgwyd wrth ddelio â phandemig Covid-19.