Nid yw Lisa yn derbyn ceisiadau mentora newydd nes Ebrill 2024. Cysylltwch ag Awel Jones ar 07961 958 807 / awel.jones2@menterabusnes.co.uk i drafod eich opsiynau eraill.

Pam y byddai Lisa yn fentor effeithiol

  • Pwnc arbenigol Lisa yw TGCh. Mae gwaith papur y fferm, cadw cofnodion a ffurflenni treth digidol i gyd yn dasgau hanfodol y mae llawer o ffermwyr yn eu hofni, felly mae’n fuddiol ceisio cymorth arbenigol os nad ydych yn teimlo’n barod am yr her, neu os oes angen arweiniad arnoch ar unrhyw agwedd ar ddefnyddio cyfrifiaduron a meddalwedd sy’n ymwneud ag amaeth!
  • Mae Lisa yn diwtor TGCh profiadol sydd wedi cyflwyno hyfforddiant un-i-un trwy raglen TGCh Cyswllt Ffermio ers blynyddoedd lawer. Mae'n mwynhau gweithio gyda'r rhai sy'n ddechreuwyr llwyr, yn ogystal ag unigolion â sgiliau cyfrifiadurol uwch, a allai fod angen cymorth ar fater penodol megis trosglwyddo i becyn meddalwedd gwahanol. Ei nod yw osgoi gor-gymhlethu sesiynau mentora a bod ar ben arall y ffôn os oes angen.
  • Yn wybodus, yn ddigynnwrf ac yn amyneddgar, bydd yn tynnu'r dirgelwch allan o unrhyw feysydd a allai fod yn anodd i chi. Yn hyfforddwr a thiwtor profiadol, gall esbonio’n syml sut i fynd i’r afael â’r rhan fwyaf o dasgau gweinyddol ar-lein, gan gynnwys cadw cofnodion a chydymffurfio â deddfwriaeth a gofynion statudol ar gyfer symudiadau anifeiliaid a chofnodion meddyginiaeth sy’n ofynnol ar gyfer gwarant fferm.
  • Gall Lisa hefyd eich mentora ar dagio anifeiliaid yn electronig. Roedd yn arfer gweithio i gwmni cadw cofnodion da byw mawr, yn ymweld â ffermydd i helpu ffermwyr i sefydlu meddalwedd newydd, gan eu helpu i gasglu data defaid oddi wrth ddarllenwyr dyfeisiau adnabod electronig a mewnbynnu data’r defaid, gan gynnwys cofnodion meddyginiaethau a symudiadau, i’r rhaglen. Mae hi hefyd yn helpu ei chwsmeriaid i gysylltu'r rhaglen â BCMS i lawrlwytho holl ddata eu gwartheg.
  • Yn fam newydd, mae Lisa yn byw gyda'i phartner ar fferm laeth ger Llandeilo, ac mae hefyd mewn partneriaeth â'i brawd ar eu fferm fynydd lle cafodd ei magu yn Llanddewi Brefi. Er ei bod yn mwynhau ffermio o ddydd i ddydd, mae Lisa yn dweud mai helpu ffermwyr eraill i fagu hyder gyda sgiliau cyfrifiadurol yw’r hyn sy’n rhoi’r boddhad mwyaf iddi.
  • Gall hefyd roi cymorth i gwblhau’r gweithlyfr Rheoli Llygredd Amaethyddol i’ch helpu i fodloni gofynion cadw cofnodion Rheoliadau Adnoddau Dŵr (Rheoli Llygredd Amaethyddol) (Cymru) 2021.

Cymwysterau/llwyddiannau/profiad 

  • Prifysgol Abertawe - HND mewn Gofal Cymdeithasol.
  • Cymwysterau mewn arwain a rheoli staff.
  • Dealltwriaeth gref a phrofiad o holl raglenni Microsoft Office, yn ogystal â phecynnau meddalwedd fferm arbenigol gan gynnwys Rhaglen Cofnodion Fferm FAWL, Farmworks, Herdwatch, Stockmove Express, SUM IT ac Uniform Agri
  • Cyn-gynghorydd cymuned, Llanddewi Brefi
  • 2016 i 2022 - cynrychiolydd ar gyfer Shearwell data Ltd,
  • 2015 i 2016 - Gweinyddwr swyddfa, IBERS Prifysgol Aberystwyth,
  • 2000 i 2015 - Uwch swyddog datblygu CFfI Cymru
  • 2017 - Rhaglen Arweinyddiaeth Wledig Academi Amaeth Cyswllt Ffermio

Awgrymiadau i lwyddo mewn busnes  

“Pan ddaw’n fater o ddewis neu ddefnyddio pecynnau meddalwedd sy’n ymwneud ag amaeth, mae’n bwysig ystyried pa fath o ffermio rydych chi’n ei wneud a pha wybodaeth yn union sydd angen i chi ei chofnodi.”

“Peidiwch â bod yn nerfus o gyfrifiaduron; unwaith y bydd gennych yr hyder a’r wybodaeth ddigonol i ddechrau eu defnyddio’n rheolaidd, bydd gwella’n dod yn hawdd!”