6 Rhagfyr 2019

 

Gall adnabod arwyddion cloffni yn gynnar wella iechyd traed gwartheg mewn buchesi llaeth a bîff yng Nghymru.

Gwelir bod lefel cloffni ymhlith buchesi llaeth Cymru yn 32% ar gyfartaledd, ac mae hyn yn tanseilio ffrwythlondeb gwartheg, cyfanswm y llaeth a gynhyrchir a'u hirhoedledd.

Ond bellach, mae ffermwyr yng Nghymru yn adnabod y broblem ac yn mabwysiadu dull rhagweithiol trwy gael arweiniad mewn gweithdai hyfforddiant byr a ariannir yn llawn ac a gynhelir gan eu practisiau milfeddygol trwy gyfrwng rhaglen Datblygu Sgiliau Lantra.  Datblygwyd yr hyfforddiant ar y cyd gan Cyswllt Ffermio a'r Gwasanaeth Gwybodaeth Cenedlaethol am Glefydau Anifeiliaid (NADIS).  Mae Lantra Cymru yn arwain y gwaith o ddarparu rhaglen hyfforddiant Iechyd a Lles Anifeiliaid, sy'n gontract yn ôl y gofyn ar gyfer Rhaglen Datblygu a Dysgu Gydol Oes Cyswllt Ffermio.

Yn ystod un o'r gweithdai hyn a ddarparwyd gan Alex Cooper a Mike John, y maent yn filfeddygon, ym Mhractis Milfeddygol Fenton yn Hwlffordd, cynghorwyd ffermwyr y gall adnabod arwyddion rhybuddio yn brydlon atal problemau rhag gwaethygu ymhlith stoc sy'n cael eu heffeithio.

Yn aml, bydd gwartheg yn cuddio'r arwyddion cynnar, ond mae rhoi sgoriau symudedd ar raddfa sy'n amrywio o 0 ar gyfer gwartheg y mae ganddynt symudedd da, i 3 am fuwch nad yw'n gallu dal i fyny â'r fuches, yn caniatáu i chi ddarganfod y broblem yn brydlon a rhoi triniaeth.

Dylid cyflawni gweithgarwch sgorio symudedd yn rheolaidd trwy gydol y flwyddyn, argymhellodd Mr Cooper.

“Mae'n bwysig cofnodi sgôr pob buwch a'r driniaeth a roddir, fel y gellir monitro achosion, a bydd yn dangos os yw'r cynllun trin a'r mesurau rheoli cloffni yn gweithio,” dywedodd.

Gall cloffni godi o ganlyniad i heintiau sy'n achosi dermatitis digidol, troed clonc a chlefyd llinell wen, neu gan drawma sy'n arwain at wlserau ar y gwadn, cornwydydd a chleisio.

Rhoddwyd cyngor manwl i'r ffermwyr a fynychodd y gweithdy ynghylch atal a thrin sawl math o gloffni, ond roedd y prif negeseuon yn cynnwys:

  • Dylid glanhau a diheintio cyllyll carnau ar ôl tocio pob anifail, gan bod methu gwneud hynny yn rheswm cyffredin dros ledaenu dermatitis digidol.
  • Gall rhwymo carnau sy'n cael eu heffeithio gan dermatitis digidol wneud mwy o ddrwg na lles, gan bod nifer o ffermwyr yn gadael y rhain ymlaen am gyfnod rhy hir, ac maent yn dal lleithder ac ysgarthion.  “Os byddwch yn eu rhwymo, ni ddylech eu gadael ymlaen am fwy na dau ddiwrnod,” dywedodd Mr Cooper.
  • Mae'r amseru wrth docio traed yn allweddol;  mae Mr Cooper yn argymell y dylid ei wneud 6-8 wythnos cyn bwrw llo, pan fo gwartheg yn llaetha 60-120 diwrnod, 4-8 wythnos cyn eu troi allan a phan geir arwyddion o ordyfiant.
  • Bydd treulio amser yn archwilio'r traed am arwyddion cloffni yn rheolaidd yn talu ar ei ganfed.
  • Dim ond os bydd baddonau traed wedi'u lleoli i ffwrdd o fannau lle y mae pobl yn gweithio y dylid defnyddio Formalin, oherwydd y risg i iechyd gan y tarthau.
  • Os ceir nifer uchel o wlserau ar y gwadn yn y fuches, dylid ystyried yr hyn a allai fod yn eu hachosi;  mae'r ffaith bod gwartheg yn sefyll ar goncrid am gyfnodau hir a cholli sgôr am gyflwr y corff yn ffactorau.
  • Dylid archwilio gweithdrefnau bioddiogelwch tocwyr traed a milfeddygon er mwyn sicrhau eu bod yn cydymffurfio â phrotocolau.
  • Dylid lleihau'r pwysau gan haint trwy gadw gwartheg a budreddi ar wahân.

Mae Mr Cooper o blaid tocio traed yn rheolaidd.  “Mae'n beth da iawn i'w wneud, hyd yn oed os nad oes gennych chi nifer fawr o wartheg cloff, oherwydd y bydd gwario arian ar docio yn lleihau cloffni a'r costau sy'n gysylltiedig â hynny.”

Dylid ystyried y cyflymder y bydd gwartheg yn cael eu cerdded i'r parlwr godro ac oddi yno, a'r wyneb cerdded.

“Peidiwch â rhuthro gwartheg,” rhybuddiodd Mr Cooper.  “Rydw i o blaid astroturf fel wyneb cerdded.  Rydw i wedi gweld gwartheg yn symud yn gyflymach ar hwnnw;  maent yn hapusach ac mae'n lleihau'r trawma i'w traed.”

Ceir cyswllt uniongyrchol rhwng cyflwr gwartheg ac iechyd y traed.

Mae'r clustog bysol (y 'pad braster' dan yr asgwrn pedal sy'n diogelu'r droed rhag trawma) yn deneuach ar draed gwartheg nad ydynt yn y cyflwr gorau, felly, byddant yn fwy tebygol o ddioddef cleisiau a chlwyfau ar y gwadn.

Dywedodd Mr Cooper bod cynnal buches gaeedig neu weithredu polisi cadarn wrth sicrhau a chadw anifeiliaid ar wahân, yn bwysig.  “Yn aml, bydd dermatitis digidol yn cyrraedd buches mewn stoc sy'n dod i mewn, ac mae'r sefyllfa hon yn gallu achosi hyn  i ailgychwyn ar raddfa fawr oherwydd os na fydd gwartheg yn y fuches bresennol wedi cael cyswllt gyda haint, ni fydd ganddynt imiwnedd.”


Related Newyddion a Digwyddiadau

Arbrawf llaeth yn edrych ar iechyd lloi ar fferm laeth yn Sir Benfro
25 Ebrill 2024 Mae fferm laeth yn Sir Benfro sy’n lloia yn y
Sut mae dod yn ystadegyn damweiniau wedi gwneud ffermwr yn bencampwr iechyd a diogelwch fferm
23 Ebrill 2024 {"preview_thumbnail":"/farmingconnect/sites
Fferm Rhyd Y Gofaint yn treialu defnyddio meillion gwyn i leihau costau gwrtaith a hybu cynhyrchiant
18 Ebrill 2024 Mae Deryl a Frances Jones o fferm Rhyd Y Gofaint