15 Hydref 2021

 

Dr David Cutress: IBERS, Prifysgol Aberystwyth.

 

  • Mae’r arferion yn y Deyrnas Unedig o safbwynt cnydau a phorfa yn dibynnu’n drwm ar fethodolegau traddodiadol sy’n gallu cael effeithiau ar yr hinsawdd a bod yn agored i amrywiaethau mawr ym maint yr elw.  
  • Gall systemau cnydau a phorfa amgen agor llifoedd refeniw nas defnyddir digon arnynt neu rai gwbl newydd i ffermwyr gan gyplysu hefyd ag egwyddorion y polisïau amaethyddol newydd
  • Mae’r opsiynau amgen yn niferus a dylid eu hystyried fesul achos, ond fe ellid eu gweithredu mewn cyfuniadau cyfannol i wella effeithiau amaethyddiaeth ac allbynnau cynhyrchiant i’r dyfodol

 

Mae problemau â chnydau a phorfa oherwydd amgylcheddau newidiol ac eithafol, costau amrywiol blynyddol, ystyriaethau amgylcheddol, achosion cynyddol o chwyn a phlâu ynghyd â chyfyngiadau ar ddulliau cemegol o reoli plâu yn golygu bod yn rhaid i dyfwyr roi ystyriaeth fwyfwy i drywyddau newydd. Caiff opsiynau amgen yn lle opsiynau cnydau a phorfeydd traddodiadol eu trafod yn aml fel llwybr i gael mynediad nid yn unig i lifoedd refeniw gwahanol ond fanteision dilynol hefyd. Mae nifer o gnydau eisoes yn cael eu hystyried yn y Deyrnas Unedig gyda gwahanol lefelau o farchnadoedd eisoes ar gael, dealltwriaeth o gynhyrchu yn benodol yn y Deyrnas Unedig yn ogystal â manteision amgylcheddol gwahanol oherwydd llai o ofyn am nitrogen neu gynnydd mewn bioamrywiaeth er enghraifft. Er nad yw’r erthygl hon mewn unrhyw ffordd yn rhestr gyflawn o’r holl opsiynau amgen sydd ar gael i systemau cynhyrchu cnydau sefydlog a glaswelltiroedd pori ungnwd mwy traddodiadol o ran gwenith, barlys neu rêp had olew, mae’n gobeithio eich hysbysu bod nifer o opsiynau amgen yn bodoli a chael ffermwyr i ehangu eu hystyriaethau i’r dyfodol.

 

Opsiynau o ran tyfu amrywiaeth o gnydau

Dywedir mai Tyfu amrywiaeth o gnydau yw un o’r ffyrdd mwyaf cost-effeithiol o ddileu neu leihau’r ansicrwydd yn incwm tyfwyr. Wrth ystyried tyfu cnydau amrywiol dylai tyfwyr ystyried nifer o agweddau ar y cnwd dan sylw gan gynnwys potensial y farchnad, pa mor rhwydd yw ei dyfu a’r effaith amgylcheddol. Gellir gweld esiampl dda o hyn yn y cynnydd a welwyd mewn cynhyrchiant soia (ffa soia) yn y Deyrnas Unedig, i raddau helaeth oherwydd bod mathau ar gyfer hinsawdd oerach y Deyrnas Unedig wedi cael eu bridio. Mae soia yn gynnyrch bwyd uchel mewn protein sy’n cael ei fwyta gan bobl ac mae iddo rolau mewn nifer o gynhyrchion gan gynnwys saws soi, tra ei fod i gyfrif am ganran fawr iawn o’r holl fwydydd anifeiliaid yn y sector amaethyddiaeth. Ar hyn o bryd, mae llawer o’r diwydiant soia wedi’i leoli yng ngwledydd de America a gellir eu cysylltu â phrosesau niweidiol i’r amgylchedd megis dadgoedwigo (mae’r lefelau soia a gaiff ei fewnforio ar gyfer y Deyrnas Unedig ei hun angen tir sy’n cyfateb i 60% o Gymru), lefelau uchel o ddyfrhau a thanwydd a ddefnyddir i gludo’r cynnyrch ar draws y byd. O’r herwydd fe allai arallgyfeirio i gnydau soia yn y Deyrnas Unedig helpu i leihau’r gofynion mewnforio (sy’n oddeutu 4 miliwn tunnell ar hyn o bryd) ac ôl-troed amgylcheddol is i amaethyddiaeth yn gyffredinol. Yn ogystal, fe all soia fod yn gnwd isel ei gost oherwydd ei natur godlysieuol sydd felly’n sefydlogi nitrogen ac yn lleihau’r angen am wrteithiau, gyda maint elw gros amcangyfrifiedig yn y DU o £468/ha (mae’r elw gros cymharol ar gyfer prif gnydau isod) ochr yn ochr â rolau posibl o frwydro yn erbyn effeithiau chwyn cynffonwellt du a chael llai o effeithiau plâu cyffredin yn y DU.

 

Yn y DU mae pompiynau yn dod yn fwy poblogaidd ac mae’r galw’n cynyddu. Mae courgettes maes yn bompiwn uchel ei werth sy’n esgor ar incwm o oddeutu £8,000/ha ac amcangyfrifir bod cynhyrchiant y Deyrnas Unedig rhwng £6 a £7 miliwn. Un ystyriaeth holl bwysig o ran twf a chynaliadwyedd pompiynau yw’r awydd am beillio drwy bryfed, i osgoi’r llafur a’r costau yr eir iddynt drwy beillio â llaw. Amcangyfrifir bod i bryfed-beillwyr werth o £3398 yr hectar yn enwedig o safbwynt twf courgette a chânt gymaint o effaith ar bwysau a maint y ffrwythau a gynhyrchir fel y dylid annog niferoedd uchel o beillwyr. Mae pompiynau eu hunain hefyd yn gweithredu fel ffynhonnell borthiant dda ac yn gynefin ar gyfer rhywogaethau peillwyr ac maent yn esgor ar gyd-fanteision os cânt eu plannu ochr yn ochr ag ystyriaethau cnydau/porfa a fwriedir i wella cynefinoedd a bioamrywiaeth peillwyr (gweler isod). At hynny, llwyddwyd i ynysu cyfansoddion gwrthficrobaidd a gwrth-ganser o wahanol fathau o bompiynau ac fe allai hynny ddarparu marchnad arall ar gyfer eu cynnwys yng nghnydau’r Deyrnas Unedig i’r dyfodol (gweler isod am ragor ar gynhyrchion fferyllol mewn cnydau). Er gwaethaf y manteision hyn, ynghyd â’r ffaith ei bod yn gymharol hawdd addasu pompiynau i amodau caeau amrywiol, gwyddys bod pompiynau yn wynebu problemau gwastraff aruthrol o safbwynt datblygu pydredd. Mae Partneriaeth Arloesi Ewrop (EIP) yng Nghymru  wrthi’n chwilio am bydredd ar waelod y ffrwyth mewn pwmpenni i weld sut allai atchwanegiadau maeth o bosibl helpu i atal colledion mewn cnydau sy’n gysylltiedig â rhywogaethau pompiynau, gan wneud y cnydau hyn hyd yn oed yn fwy ymarferol bosibl i’w defnyddio mewn system neu gylchdro cnydau amrywiol.

 

Opsiwn arallgyfeirio arall yw asbaragws, lle gellir gwneud elw gros blynyddol cyfartalog o rhwng £2,255 a £8,891/ha mewn systemau anorganig (yn amrywio oherwydd y prisiau adwerthu neu gyfanwerthu a geir). Mae prosiect gan Bartneriaeth Arloesi Ewrop (EIP) yng Nghymru yn gwerthuso twf asbaragws organig (gydag ychydig yn llai o gnwd o’i gymharu) wedi awgrymu elw posibl blynyddol o rhwng £10,000 a £24,000/ha os ceir prisiau siop fferm ac mae hyn yn dangos ei botensial proffidiol.

Ffordd arall o edrych ar opsiynau ffynonellau bwyd amgen yw ceisio defnyddio’r adnoddau sydd ar gael yn hawdd ac na chânt eu defnyddio na’u gwerthfawrogi’n ddigonol ar hyn o bryd. Un esiampl o hyn yw sudd bedw, y gellir ei gynaeafu o goed bedw cyffredin sydd i’w cael ar draws y Deyrnas Unedig ac y gallent fod yn uchel eu gwerth oherwydd eu bod yn cynnwys 5 gwaith yn fwy o siwgr na surop masarn. Mae prosiect gan Bartneriaeth Arloesi Ewrop yng Nghymru yn ceisio canfod y ffyrdd gorau o dapio a phrosesu sudd bedw i’w werthu ymlaen fel cynnyrch bwyd uchel ei werth. Mae gwledydd fel Canada yn adnabyddus am ddefnyddio cynhyrchion bwyd sudd coed (surop Masarn) ar gyfer cynhyrchion bwyd uchel eu gwerth, ac felly mae’n glir y gellir dod o hyd i farchnadoedd ac y gallai ffermwyr ddefnyddio’r bedw sydd eisoes ar eu tir neu annog rhagor o blannu er mwyn cynhyrchu bwyd yn ogystal â manteision amaeth-goedwigaeth cysylltiedig.  

 

Cynhyrchion fferyllol

Ers rhai miloedd o flynyddoedd, mae planhigion meddyginiaethol a chynnyrch ffyto-fferyllol wedi bod yn offer holl bwysig ymysg arfau meddygon a iachawyr, a cheir cofnod o’r hyn ddywedodd yr athronydd Hippocrates “Gadewch i fwyd fod ichi’n feddygyniaeth a meddyginiaeth ichi’n fwyd” dros 2400 mlynedd yn ôl. Mae’r farchnad am feddyginiaethau llysieuol a thriniaethau naturiol yn dal yn sylweddol iawn yn fyd-eang, yn aml heb ystyried a gafwyd cadarnhad gwyddonol o elfennau llesol y cynhyrchion. Fodd bynnag, mae datblygiadau mewn offer dadansoddol modern megis sbectrometreg, technolegau cyseinedd magnetig niwclear a llu o wahanol offer ‘omeg’ a chromatograffeg wedi ei gwneud yn llawer cyflymach a hawdd i sgrinio a gwerthuso planhigion am briodweddau meddyginiaethol. Pan ganfyddir bod planhigion yn cynhyrchu lefelau uchel o gyfansoddion fferyllol-berthnasol, mae’n esgor ar opsiynau cwbl newydd i ffermwyr o ran tyfu cnydau heblaw am ar gyfer cynhyrchu bwyd, neu weithiau law yn llaw â hynny.  Ymysg yr esiamplau y mae cynhyrchu galanthamin, sy’n driniaeth drwyddedig ar gyfer clefyd Alzheimer, y gellir ei dynnu o Narcissus spp (cennin Pedr). Mewn treialon yng Nghymru, llwyddwyd i gyflwyno cennin Pedr i ardaloedd ucheldir llai ffafriol sy’n caniatáu i systemau da byw traddodiadol barhau ac ategu mentrau economaidd â chnwd y mae gwerth uchel iddo a galw mawr amdano. Mae llu o fetabolion eilaidd eraill o amrywiol blanhigion gan gynnwys cyfansoddion megis alcaloidau, fflafonoidau, tanninau, terpenoid a saponinau wedi dangos llu o fanteision i iechyd anifeiliaid a phobl (gweler y tabl isod). Yn yr un modd, yn un o brosiectau Partneriaeth Arloesi Ewrop yng Nghymru, aseswyd cynhyrchiant serennyn oherwydd ei rolau yn cynhyrchu glycosidau a ddefnyddir mewn meddyginiaethau megis moddion peswch. Er i’r prosiect ganfod ei bod yn bosibl ei gynhyrchu yng Nghymru, fe wnaeth dynnu sylw at yr angen i wneud treialon a phrofi i’r eithaf er mwyn datblygu systemau cynhyrchu cnydau a chael cnydau o werth uchel, sydd yn flaenorol wedi cael eu hoptimeiddio ar gyfer hinsoddau cwbl wahanol.

Grŵp Metabolion

Cyfansoddyn

Tarddiad y planhigyn

Effaith ar Iechyd

Alcaloid

Atropin

Beladona neu godwarth

Gwrth-colinergig

Alcaloid

Cwinîn

Sincona

Gwrth-falario, gwrth-dwymynol, gwrth y frech wen, yn lladd poen a gwrth-lidiol

Alcaloid

Finblastin

Gwichiaid Madagasgar

Gwrth-ganser, gweithgaredd salwch Hodgkin

Fflafonoidau

Amryfal

Gossypium hirsutum (cotwm)

Gwrthocsidydd, gwrth-ffyngaidd

Fflafonoidau

Cwersetin

Amryfal (brocoli, tsili choch, dail nionod)

Gwrthocsidydd, gwrth-ganser, lleihau risg o glefyd y galon

Fflafonoidau

lwteolin

Amryfal (tsili gwlad Thai, dail nionod, brocoli)

Gwrthocsidydd, gwrth-ganser, lleihau risg o glefyd y galon

Tanninau

ellagitannin

Sudd ffrwythau, jamiau, pomgranadau

Gwrthocsidydd, gwrth-ganser

Tanninau

Proanthocyanidins

Sudd ffrwythau

Gwrthocsidydd, gwrth-ganser

Tanninau

Asid elagig

Cnau pecan a chnau Ffrengig

Gwrthocsidydd, gwrth-ganser

Terpenoidau

D-Limonene

Ffrwythau sitrws, pupur-fintys, tomatos

Gwrth-ganser, gwrth-niwrolidiol

Terpenoidau

Retinol

Moron, bresych, pwmpenni

Gwrth-ganser, gwrth-niwrolidiol

Terpenoidau

Tocofferolau

Cnau almon a chnau eraill

Gwrth-ganser, gwrth-niwrolidiol

Saponinau

Soyasaponin I

Ffa soi a chodlysiau bwytadwy eraill

Lleihau colesterol, gwrthocsidydd, gwrth-ganser

Cymerwyd y data o amryfal ffynonellau [1], [2], [3], [4], [5], [6], [7],[8]

 

 

Cyfoeth rhywogaethau, cynaliadwyedd a bioamrywiaeth

Mae cynaliadwyedd amgylcheddol a gwell bioamrywiaeth ar flaen yr ystyriaethau yn y sector amaethyddol yn fyd-eang. Nodwyd y dylai cynlluniau a ddaw yn lle’r cynllun taliad sylfaenol i ffermydd ganolbwyntio ar feysydd sy’n cael effaith sylweddol ar y ddau ffactor hwn. Un ffordd y gall tyfwyr geisio cyflawni’r cyfryw amcanion am gymhorthdal yw gwella dulliau rheoli porfeydd sydd o bosibl ar hyn o bryd yn tanddefnyddio eu potensial i ddal a storio carbon ac yn gorddefnyddio mewnbynnau cemegol ar yr un pryd. Ymchwiliwyd i strategaethau megis glaswelltir sy'n gyfoeth o rywogaethau, gwyndonnydd llysieuol a chnydau gorchudd yn y gorffennol am eu rolau mewn cynaliadwyedd drwy wella iechyd y pridd, argaeledd porthiant a dal a storio carbon i enwi ond ychydig o fanteision. Mae dau o brosiectau Partneriaeth Arloesi Ewrop (EIP) yng Nghymru wedi ceisio edrych ar yr agweddau hyn mewn gwahanol ffyrdd gan ddefnyddio systemau porthiant amgen yn benodol ar dir ymylol, yn ogystal â defnyddio’r cnydau gorchudd gorau i annog bioamrywiaeth bywyd gwyllt gydol y flwyddyn. Pan gafodd cymysgeddau aml-rywogaethau eu gwerthuso, cafodd y prosiect drafferth dod o hyd i fanteision cynhyrchiant mawr ond fe wnaeth weld o leiaf lefelau cyfatebol o rygwellt confensiynol. Mae cyfuno hyn â’r manteision amgylcheddol tebygol sy’n gysylltiedig â chymysgeddau aml-rywogaethau yn eu gwneud yn hynod ddiddorol yn enwedig ar ôl sicrhau'r ansawdd gorau ymhellach. Gall gwella presenoldeb rhywogaethau adar drwy gyfrwng cnydau gorchudd gael effaith gadarnhaol ar yr eco-systemau cyfan sy’n bresennol ar ffermydd os caiff hyn ei wneud yn iawn. Drwy drin bioamrywiaeth gellir rheoli plâu ac effeithiau niweidiol pryfed drwy ddulliau biolegol a gall fod yn beirianwaith ail-hadu naturiol ar gyfer poblogaethau hadau gwyllt.

 

Peillwyr

Gyda’r ffocws ar gyfer amaethyddiaeth yng Nghymru a’r Deyrnas Unedig gyfan yn symud at “gynaliadwyedd hirdymor” a “lliniaru neu wyrdroi effeithiau amgylcheddol” mae un ffordd o gyflawni hyn yn cynnwys datblygu ecosystemau sefydlog sy’n hunan-gynhaliol. Er bod y cyfryw systemau yn hynod gymhleth ac yn cynnwys nifer o rywogaethau gwahanol yn gweithio mewn cydgord mae’n hysbys bod gan beillwyr rôl holl bwysig i’w chwarae i gynnal a chynyddu presenoldeb rhywogaethau planhigion ac amrywiaethau rhywogaethau. Awgrymir bod gwerth pryfed-beillwyr cnydau yn £690 miliwn y flwyddyn yn y Deyrnas Unedig, fodd bynnag, yn gyffredinol, mae niferoedd y peillwyr yn dirywio. Fe allai’r dirywiad hwn mewn peillwyr i’r dyfodol fod yn risg fwy sylweddol i ddiogelwch y cyflenwad bwyd yn gyffredinol ac, o’r herwydd, mae ystyriaethau rheoli tir a chnydau o amgylch y mater hwn yn holl bwysig. Gellir cyplysu effeithiau negyddol posibl amaethyddiaeth gyfredol hefyd;

  • Mae defnyddio chwynladdwyr yn lleihau ffynonellau bwyd naturiol chwyn
  • Defnyddio gwrtaith nitrogen yn hytrach nag opsiynau amgen sy’n sefydlogi nitrogen ac yn lleihau’r bwyd sydd ar gael i beillwyr
  • Pwysau arferion pori dwys yn atal planhigion rhag blodeuo’n effeithiol
  • Toriadau silwair a chnydio yn lleihau amlder blodau
  • Plaladdwyr a chemegion yn effeithio’n uniongyrchol ar beillwyr

 

Un o’r grwpiau pwysicaf ymysg y peillwyr yw gwenyn, gyda rhywogaethau cacwn yn aml yn cael eu defnyddio fel rhywogaethau sy’n arwydd o beillwyr yn gyffredinol. Gellir lliniaru’r effeithiau negyddol a amlinellir uchod mewn amrywiol ffyrdd drwy ystyriaethau newid porfeydd. Roedd un ystyriaeth o’r fath yr ymchwiliodd un o brosiectau Partneriaeth Arloesi Ewrop (EIP) yng Nghymru iddi yn cynnwys newid y dulliau o dorri a phori caeau er mwyn cynnal adnoddau cynefinoedd cyson i rywogaethau peillwyr. Yn yr astudiaeth roedd cadw stribedi o dir heb eu pori/torri, i annog twf blodau, yn gefnogol i bresenoldeb parhaus peillwyr a gwenyn ar ffermydd. Mae ymchwil blaenorol wedi awgrymu bod cymysgeddau blodau glastir llysieuol amrywiol sy’n cynnwys planhigion porfa cydlysieuol a phlanhigion eraill yn ffordd dda o wella niferoedd peillwyr. Gallai’r mathau hyn o strategaethau gael eu cynnwys yn synergeddol os cânt eu rheoli’n gywir gyda’r awgrymiadau amgen uchod ynglŷn â phorthiant. Dyma rai ystyriaethau eraill;

  • Defnyddio dulliau rheoli chwyn amgen er mwyn defnyddio llai o chwynladdwyr
  • Gwella’r amrywiaeth rhywogaethau mewn porfa yn gyffredinol gan wella gwytnwch yn erbyn chwyn gan leihau neu ddileu’r angen am chwynladdwyr
  • Gwneud y defnydd mwyaf a gorau o rywogaethau codlysiau mewn cymysgeddau porfeydd
  • Pori’n ysgafn ar rai rhanbarthau drwy strategaethau pori cylchdro neu bori stribedi
  • Caniatáu mwy o amser i borfeydd flodeuo cyn torri silwair
  • Ystyried lefelau stocio ar borfeydd i ysgafnu’r pwysau a chynhyrchu ‘llai ond gwell’
  • Defnyddio dulliau rheoli biolegol er mwyn defnyddio llai o gemegion

 

Crynodeb

Mae’n debygol y byddai llawer o’r strategaethau a’r opsiynau amgen hyn yn cyfuno’n dda i gael effeithiau mwy cyfannol cyffredinol ar gynaliadwyedd amaethyddiaeth a lleihau’r effeithiau ar yr amgylchedd. Mae’r esiamplau uchod yn cynnwys defnyddio pompiynau sy’n gallu nid yn unig weithredu fel cnwd uchel ei werth yn ei hawl ei hun, ond fe allant hefyd gael marchnadoedd atodol fel cynnyrch fferyllol a chwarae rolau allweddol i ddarparu ffynonellau bwyd i boblogaeth beillwyr amrywiol.  Mae llawer o’r arferion yn syrthio’n dda o fewn paramedrau ffermio cynaliadwy ac adfywiol sydd eisoes yn egwyddorion sydd â phresenoldeb, defnydd a dealltwriaeth gynyddol yn fyd-eang ac yn y Deyrnas Unedig. Fodd bynnag, mae angen gwneud llawer mwy o dreialon a chasglu mwy o wybodaeth i sicrhau’r arferion gorau un i dyfwyr ac i ddarparu tystiolaeth o’r manteision er mwyn ennyn awydd defnyddwyr ac adwerthwyr y Deyrnas Unedig. Mae’r gwaith cychwynnol yn y prosiectau EIP hyn wedi crafu’r wyneb a, gyda lwc, fe fydd canlyniadau cychwynnol mor addawol o leiaf yn cael tyfwyr i ddechrau ystyried rhai o’r amrywiaeth mawr o opsiynau amgen sydd ar gael.  

 

Os hoffech fersiwn PDF o'r erthygl hon, cysylltwch â heledd.george@menterabusnes.co.uk


Related Newyddion a Digwyddiadau

Drudwy ar Ffermydd: Strategaethau Diogelu a Rheoli
Dr Natalie Meades: IBERS, Prifysgol Aberystwyth. Rhagfyr 2023
Cadw Lloi dan do a Chlefyd Resbiradol Buchol
Dr Natalie Meades: IBERS, KEHub , Prifysgol Aberystwyth. Ionawr
Cnydau Porthiant ar gyfer Pesgi Ŵyn: Cnydau Bresych
Dr Natalie Meades: IBERS, Canolfan Cyfnewid Gwybodaeth