Wyn a Eurig Jones
Pantyderi, Boncath, Sir Benfro
Meysydd allweddol yr hoffech chi ganolbwyntio arnyn nhw fel ffermwr arddangos?
Defnyddio EID i gofnodi perfformiad y gwartheg a’r defaid: mae gwybodaeth am y pwysau byw sy’n cael eu hennill yn cael ei chofnodi eisoes ar gell bwyso ond y cam nesaf fydd integreiddio’r wybodaeth yma gyda meddalwedd i helpu i lywio’r penderfyniadau ynghylch bridio a phrynu.
Manteisio i'r eithaf ar rannau o'r fferm sydd heb gael eu defnyddio’n ddigonol, at ddibenion yr amgylchedd: dyw’r ardaloedd salaf ar y fferm ddim yn cael eu defnyddio’n ddigon da felly fe hoffen ni fanteisio ar gynlluniau amgylcheddol i gynyddu gwerth y rhain i'r busnes.
Ffeithiau Fferm Pantyderi
“Mae Gweithio gyda Cyswllt Ffermio yn gyfle i wella’r effeithlonrwydd a’r allbwn o'n hadnoddau ni’n hunain. Bydd hyn yn caniatáu i ni gryfhau'r busnes ar gyfer y dyfodol.’’
– Wyn a Eurig Jones