Mae National Geographic Traveller (UK) wedi ymuno â Bwyd a Diod Cymru i lansio menter aml-gam newydd a ddyluniwyd i arddangos y wlad fel cyrchfan fwyd. Canolbwynt y prosiect yw llawlyfr 52 tudalen newydd am Gymru sy'n canolbwyntio ar fwyd, a noddwyd gan Bwyd a Diod Cymru a'i ddosbarthu gyda rhifyn mis Hydref o National Geographic Traveller - y tro cyntaf i lawlyfr coginio gael ei ddosbarthu gyda'r cylchgrawn yn ei hanes 10 mlynedd. Mae'r...
Hwb o £185miliwn i ddiwydiant bwyd a diod Cymru gan Brosiect HELIX
Daw’r newydd ar ail ddiwrnod y digwyddiad bwyd a diod mawr sy’n dychwelyd yng Nghymru, BlasCymru/TasteWales, a gynhelir yng Nghasnewydd. Menter Cymru gyfan yw Prosiect HELIX, a ddechreuodd yn 2016, sy’n cael ei gyflwyno gan Arloesi Bwyd Cymru, sef partneriaeth o dair canolfan bwyd yn Ynys Môn, Ceredigion a Chaerdydd. Mae’n cefnogi cwmnïau Cymru i ddatblygu cynhyrchion arloesol o gamau’r cysyniadau, dylunio, datblygu a gweithgynhyrchu, hyd at fasged siopa’r cwsmer, gan helpu busnesau i dyfu...
Arddangos 200 a mwy o fwydydd a diodydd newydd o Gymru wrth i ddigwyddiad mawr ailgychwyn
Mae nifer y cynhyrchion gafodd eu datblygu dros flwyddyn hynod anodd yn brawf clir o gadernid ac arloesedd y sector yng Nghymru. Cynhelir y digwyddiad yn y Ganolfan Gynadledda Ryngwladol (ICC Cymru) yng Nghasnewydd a bydd yn llwyfan i gynhyrchwyr o bob cwr o Gymru ddangos eu cynnyrch i brynwyr masnachol, o fanwerthwyr i wasanaethau bwyd ac allforwyr o bob rhan o'r DU. Mae cyfarfod rhithwir hefyd wedi’i drefnu ar gyfer prynwyr rhyngwladol yn dilyn...
Cefnogi diwydiant cynaliadwy
Gweledigaeth strategol Llywodraeth Cymru yw adeiladu diwydiant bwyd a diod Cymreig cryf a bywiog gyda chadwyni cyflenwi cynaliadwy sydd ag enw da byd-eang am ragoriaeth ac sydd ag un o’r cadwyni cyflenwi mwyaf amgylcheddol a chymdeithasol gyfrifol yn y byd. Mae’r uchelgais hon yn adlewyrchu’r brys a’r ymrwymiad a fynegwyd gan Lywodraeth Cymru i fynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd ac ymateb i ffocws cynyddol gan ddefnyddwyr i brynu cynhyrchion sydd â’r effaith...
GRŴP NEWYDD MERCHED MEWN PYSGODFEYDD CYMRU WEDI’I LANSIO GYDA THON O GEFNOGAETH
Mae grŵp newydd, sy’n dod â merched o ar draws y diwydiant pysgota yng Nghymru at ei gilydd ac yn amlygu eu cyfraniad pwysig ar draws y sector, wedi’i lansio gyda thon o gefnogaeth. I ddechrau, cafodd grŵp Merched mewn Pysgodfeydd Cymru (WIWF) ei sefydlu er mwyn galluogi merched o fewn y diwydiant pysgota i gyfarfod (yn rhithiol ar hyn o bryd), rhannu profiadau a chodi ymwybyddiaeth am eu gwaith a’u bywydau mewn fforwm diogel...
Pembrokeshire Lamb yn cyrraedd y brig yn y Great Taste Awards
Mae Pembrokeshire Lamb Ltd wedi derbyn y clod uchaf yng ngwobrau Great Taste Golden Fork 2021. O'r 11 o gynhyrchion o Gymru a dderbyniodd yr anrhydedd uchaf o 3 seren aur yng ngwobrau Great Taste 2021, dyfarnwyd y Golden Fork from Wales i Pembrokeshire Lamb Ltd am eu Hysgwydd Hesbin. Mae Pembrokeshire Lamb yn cynhyrchu cig oen, hesbin a chig dafad ar eu fferm deuluol fechan yng ngogledd Sir Benfro. Sefydlodd Steve a Kara Lewis...
Cymru i arddangos ei bwyd a diod ardderchog i’r byd
Mae llai na phythefnos i fynd tan fod digwyddiad bwyd a diod rhyngwladol mwyaf Cymru, BlasCymru / TasteWales, yn dychwelyd. Dros ddau ddiwrnod, bydd cyfle gwych gan fusnesau ledled Cymru i arddangos eu cynhyrchion i brynwyr ac arbenigwyr y diwydiant o bedwar ban byd, a fydd yn helpu i agor marchnadoedd newydd a meithrin cysylltiadau masnach. Mae sioeau yn y gorffennol wedi arwain at gytundebau busnes a gwerthiannau sylweddol newydd ar gyfer cynhyrchwyr Cymru. Wedi'i...
Cynhyrchion Cymreig yn cael eu gwobrwyo am eu Blas Gwych
Mae Great Taste, gwobrau bwyd a diod mwyaf poblogaidd y byd, wedi cyhoeddi eu sêr o 2021, ac mae llu o gynhyrchion bwyd a diod blasus o Gymru wedi cael sêl bendith aur. Mae 270 o gynhyrchion Cymreig eithriadol, yn amrywio o gynhyrchwyr crefftus annibynnol bach i ddosbarthwyr ar raddfa fawr, wedi bod yn llwyddiannus yn y gwobrau, gyda 190 o gynhyrchion yn cael 1-seren, 69 yn derbyn 2-seren ac 11 yn ennill clod uchel...
Cystadleuaeth Arloesi Newid Tanwydd Diwydiannol BEIS: Digwyddiad Lansio
Mae’r Tim Diwydiant a Arloesi CCUS yn yr Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol (BEIS) yn cynnal digwyddiad lansio ar gyfer y gystadleuaeth Newid Tanwydd Diwydiannol gwerth £55m a gyhoeddwyd yn ddiweddar. Os hoffech fynychu, cofrestrwch ar gyfer y digwyddiad yma https://www.eventbrite.co.uk/e/beis-industrial-fuel-switching-innovatio… (Saesneg yn unig) Cynhelir y digwyddiad ar MS Teams.
Ymweliad Datblygu Masnach Rhithwyr - Gwlad Pwyl
Rydym yn gwahodd ceisiadau gan aelodau Clwb Allforio Bwyd a Diod Cymru i gymryd rhan mewn Ymweliad Datblygu Masnach rithwir a gefnogir gan Bwyd a Diod Cymru yn targedu Gwlad Pwyl. Dyddiad cau Gorffennaf 20 2021 Am ragor o wybodaeth cliciwch yma