Cynhadledd Arian I Dyfu 2022
Ymunodd buddsoddwyr, banciau a darparwyr cyllid â busnesau bwyd a diod o Gymru yn y Bathdy Brenhinol eiconig ar ddydd Iau 24 Mawrth ar gyfer cynhadledd flynyddol gyntaf y Clwstwr Uwchraddio Cynaliadwy, Arian I Dyfu. Dan ofal y newyddiadurwr busnes Brian Meechan, dechreuodd yr agenda gyda sylwadau agoriadol gan Lesley Griffiths MS, ac aelod o Fwrdd Diwydiant Bwyd a Diod Cymru, Maggie Ogunbanwo. Ffocws agenda’r bore oedd archwilio’n fanylach y tair her allweddol a wynebir...