Wedi’i gyflwyno gan Academy of Cheese ar ran Sgiliau Bwyd a Diod Cymru a’r Clwstwr Bwyd Da; mae’r Cwrs Graddio Caws ar gyfer y rhai sy’n ceisio gwell dealltwriaeth o egwyddorion sylfaenol a pherffeithio sgiliau graddio caws. Cyflwynir y cwrs gan Katy Fenwick, Rheolwr Prosiect Addysg gyda’r Academy of Cheese; arbenigwraig mewn addysg caws, gwyddor llaeth, technoleg, gwneud caws ac aeddfedu. Pynciau dan sylw: Gan ddefnyddio modelau sefydledig yr Academy of Cheese, bydd y cwrs...
Bragwyr Cymreig wedi'u harfogi â gwybodaeth dechnegol i fynd â'u bragdai i'r lefel nesaf
Mae dros 20 o fragwyr o bob rhan o Gymru wedi manteisio ar y datblygiadau arloesol a’r arferion gorau diweddaraf gan ddarparwr gwasanaethau bragu a dadansoddi blaenllaw’r DU, gan ganiatáu iddynt dyfu a datblygu eu busnesau. Mae Datblygu Sgiliau Bragu yn gwrs a gynigiwyd yn ddiweddar i fragwyr gan raglen Sgiliau Bwyd a Diod Cymru | Food & Drink Skills Wales a Chlwstwr Diodydd Bwyd a Diod Cymru ar ran Llywodraeth Cymru ac a ddarperir...
Prosiect HELIX, a gefnogir gan Lywodraeth Cymru, yn cyrraedd carreg filltir o £491m i gefnogi’r diwydiant bwyd a diod
Cyflwynir Prosiect HELIX gan y tair canolfan fwyd ledled Cymru sy’n rhan o Arloesi Bwyd Cymru. Mae’r prosiect yn cynnig amrywiaeth o gymorth wedi’i ariannu mewn ymateb i anghenion y sector, gan gynnwys cymorth gyda gweithrediadau prosesau, datblygu cynnyrch newydd ac ardystio diogelwch bwyd. Ers mis Gorffennaf 2023, mae Prosiect HELIX wedi cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru yn unig ac mae wedi sicrhau’r manteision canlynol i ddiwydiant bwyd a diod Cymru: £119 miliwn o...
CYNHYRCHWYR O GYMRU YN TYFU GYDA CYWAIN YN SIOE FRENHINOL CYMRU
Bydd yna amrywiaeth gyffrous o fusnesau bwyd a diod Cymreig newydd ac sy’n tyfu yn y Neuadd Fwyd yn Sioe Frenhinol Cymru eleni ( 22–25 Gorffennaf). Bydd stondin Cywain ( rhif 63) yn tynnu sylw at 14 o gynhyrchwyr addawol yn ystod y sioe, gan roi llwyfan iddynt brofi eu sgiliau masnachu ac arddangos eu cynnyrch i gynulleidfa o filoedd. Mae prosiect Cywain yn gweithio gyda chynhyrchwyr bwyd a diod ledled Cymru, gan eu helpu...
Profiad ymarferol amhrisiadwy i ddarpar beirianwyr bwyd a diod mewn canolfan Ymchwil a Datblygu o’r radd flaenaf
Mae Sgiliau Bwyd a Diod Cymru | Food & Drink Skills Wales, rhaglen a ariennir gan Lywodraeth Cymru, wedi cydweithio’n ddiweddar ag AMRC Cymru i roi cyfle unigryw i gael profiad ymarferol o weithgynhyrchu uwch, yn ystod wythnos o brofiad gwaith i bedwar darpar beiriannydd rhwng 16 a 18 oed. Canfu ymchwil diweddar a gomisiynwyd gan y rhaglen fod diffyg sgiliau yn bodoli ym meysydd technegol a pheirianneg, gyda’r galw am rolau o’r fath yn...
Y gynhadledd cynaliadwyedd bwyd a diod y gyntaf o'i bath yng Nghymru
Bydd Cynhadledd Cynaliadwyedd Bwyd a Diod Cymru, sy’n cael ei chyflwyno gan Glwstwr Cynaliadwyedd Bwyd a Diod Cymru Llywodraeth Cymru, mewn cydweithrediad â Rhaglen Mewnwelediad Bwyd a Diod Cymru, yn helpu busnesau i wella eu cynaliadwyedd yn y meysydd sydd bwysicaf i ddefnyddwyr. Gan ddefnyddio cymysgedd rhyngweithiol o weithgareddau a chyfleoedd i rwydweithio, nod y digwyddiad yw cynyddu gwybodaeth fusnes mewn mewnwelediadau marchnadoedd, tueddiadau defnyddwyr, a Chyfrifoldeb Cymdeithasol Corfforaethol prynwyr. Bydd y digwyddiad hefyd yn...
Beth Yw Gwerth Eich Busnes?
Nid yw deall gwerth eich busnes bwyd neu ddiod yn ymwneud â pharatoi ar gyfer buddsoddiadau neu werthiant posibl yn unig. Mae’n ymwneud â chael dealltwriaeth gynhwysfawr o sut mae eich busnes yn perormio ar hyn o bryd, ei botensial ar gyfer twf, a gwneud penderfyniadau gwybodus i ysgogi’r twf hwnnw. Cofrestrwch am ddim yma: Beth Yw Gwerth Eich Busnes? Asesu gwerth eich busnes i fagu ei apêl
Gweinyddu TWE gan Ddefnyddio Meddalwedd Cyfrifo
Ydych chi'n gynhyrchwr bwyd neu ddiod sydd am symleiddio'ch gweinyddiaeth TWE? Mae'r gweminar hon wedi’i gynllunio’n benodol i gynnig mewnwelediadau arbenigol ar sut i reoli TWE yn fewnol gan ddefnyddio pecynnau meddalwedd cyfrifyddu blaenllaw. Cofrestwch am ddim yma: Gweinyddu TWE gan Ddefnyddio Meddalwedd Cyfrifo
Llywio TAW ar gyfer Cynhyrchwyr Bwyd a Diod
Mae deall TAW ar gyfer busnesau bwyd a diod yn aml yn fwy cymhleth nag y mae'n ymddangos ar y dechrau. Ymunwch â'n harbenigwyr ar y weminar hon i archwilio gweinyddiaeth TAW a rhoi cipolwg ymarferol ar reoli TAW yn eeithiol yn defnyddio eich systemau meddalwedd. Cofrestwch am ddim yma: Llywio TAW ar gyfer Cynhyrchwyr Bwyd a Diod
Busnes parlwr hufen iâ a pizzeria yng ngogledd Cymru yn cael blas ar lwyddiant
Mae busnes hufen iâ a pizzeria ym Meddgelert wedi ennill gwobr Busnes Uwchsgilio’r Flwyddyn yng Ngwobrau Bwyd a Diod Cymru eleni, a gynhaliwyd yn ddiweddar yn Neuadd Brangwyn, Abertawe. Mae’r gwobrau, a gynhelir yn flynyddol, yn rhoi llwyfan i gynhyrchwyr a chyflenwyr o Gymru ddathlu eu llwyddiannau mewn diwydiant amrywiol sy’n tyfu’n gyflym. Yn fuddugol yng nghategori Busnes Uwchsgilio’r Flwyddyn roedd Glaslyn o Feddgelert, a oedd yn gofyn iddynt ddangos tystiolaeth o ddiwylliant a oedd...