Rydym ni’n defnyddio JavaScript i osod y rhan fwyaf o’n cwcis. Yn anffodus, nid yw JavaScript yn rhedeg ar eich porwr, felly ni allwch newid eich gosodiadau trwy ddefnyddio’r dudalen hon. I reoli eich gosodiadau cwcis trwy ddefnyddio’r dudalen hon, rhowch gynnig ar droi JavaScript ymlaen yn eich porwr.
Mae gwir ystyr eich brand yn eistedd y tu ôl i'r logo. Yn y sesiwn yma byddwn yn trafod beth mae'n ei olygu i adeiladu brand, pam fod angen un a sut i greu brand bwyd a diod eich hun.
Wrth i ddiwedd y cyfnod pontio agosau, mae amser yn brin i ddechrau gwneud paratoadau. Clinigau wythnosol bob dydd Mawrth yn dechrau ar 17 Tachwedd 2020.
Yn ddiweddar, ymgeisiodd Sarah John, 33, o Abertawe yng nghategori Aphrodite Gwobrau blynyddol NatWest Everywoman ac mae wedi derbyn clod arbennig yng nghylchgrawn Inspire y Daily Mail fel un o'r chwe mampreneur orau yn y DU.
Heddiw [dydd Iau 12 Tachwedd] mae Lesley Griffiths, Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, wedi cyhoeddi pum aelod newydd Bwrdd Diwydiant Bwyd a Diod Cymru.
Mae Bwydydd Castell Howell, cyfanwerthwr gwasanaeth bwyd annibynnol mwyaf blaenllaw Cymru, sydd wedi'i leoli ym Mharc Bwyd Cross Hands, wedi cyhoeddi partneriaeth bwyd dros ben newydd gyda'r elusen fwyd FareShare Cymru yng Nghaerdydd.
Dros y tair blynedd diwethaf, mae 140 o fusnesau bwyd a diod teuluol o bob rhan o saith rhanbarth Ardal yr Iwerydd wedi bod yn cydweithredu i wella eu gallu i allforio. Mae Expo Rhithwir Allforio Bwyd yr Iwerydd yn nodi diwedd y prosiect 3 blynedd hwn a ariennir gan yr UE a Llywodraeth Cymru a gefnogodd fasnach a chydweithrediad i gynhyrchwyr bwyd yn rhanbarth yr Iwerydd.
Mae dros 100 o gynhyrchwyr diodydd o Gymru yn dod at ei gilydd i greu'r digwyddiad 'Dathlwch y Nadolig gyda Diodydd Cymru' cyntaf o'i fath i arddangos amrywiaeth ac ansawdd y diodydd sy'n cael eu cynhyrchu yma wrth i ni nesáu at y Nadolig.