Dolygarn, Llanbadarn Fynydd, Llandrindod, Powys

Prosiect Safle Ffocws: Sefydlu pori cylchdro ar gyfer system sy'n seiliedig ar laswellt drwy'r gaeaf

Nodau’r prosiect:

Prif nod y prosiect yw dangos y broses o drawsnewid fferm bîff a defaid draddodiadol a oedd yn stocio’n sefydlog i system bori cylchdro, a’r manteision cysylltiedig, i gynorthwyo nod y fferm o ddefnyddio system bori glaswellt drwy’r gaeaf.

Bydd y prosiect yn canolbwyntio ar sut all rheolaeth porfa a chyllidebu porthiant gefnogi’r broses o wneud penderfyniadau ar y fferm o ran y canlynol:

  • Pryniannau a gwerthiannau stoc
  • Dyddiadau troi at y tarw a’r hwrdd
  • Dyddiad diddyfnu
  • Gwasgaru nitrogen
  • Torri silwair
  • Bwydo Ychwanegion
  • Siediau

Bydd y prosiect yn amlygu ystyriaethau ymarferol rhannu’r fferm a gosod yr isadeiledd perthnasol.

 

Casglu Data:

Bydd y Gorchudd Fferm Cyfartalog yn cael ei fesur gan ddefnyddio Mesurydd Plât, gan fesur pob cae o fewn yr ardal bori pob pythefnos. Bydd unrhyw gnydau porthiant dros y gaeaf yn cael eu samplu i amcangyfrif eu gwerth DM cyn pori.

Bydd cofnod cywir o’r canlynol yn cael ei gadw, a’i ddiweddaru bob pythefnos:

  • Nifer o bob math o stoc
  • Pwysau cyfartalog pob math o stoc
  • Ardal y fferm sydd ar gael ar gyfer pori
  • Faint o ychwanegion sy’n cael eu bwydo

Bydd yr holl ddata ffisegol yn cael ei gofnodi ar feddalwedd porfa FARMAX.

Bydd cost ariannol fesul hectar ar gyfer sefydlu system bori cylchdro hefyd yn cael ei gofnodi i asesu elw o fuddsoddiad.

“Os na fyddwch yn ei fesur, nid oes modd ei reoli”


Prosiectau cysylltiedig Ein Ffermydd

Wern
Osian Williams Wern, Y Foel, Y Trallwng, Powys Meysydd allweddol
Mountjoy
William Hannah Mountjoy, Trefgarn, Sir Benfro, Meysydd allweddol
Great Tre-rhew Farm
Jim a Kate Beavan Fferm Great Tre-rhew, Llanvetherine, Y Fenni