Safle newydd yn hyrwyddo cyflogaeth mewn cyfnod tyngedfennol i’r sector bwyd a diod
Mae’r argyfwng COVID-19 presennol wedi cael effaith enfawr ar bob sector ond mae busnesau hefyd yn ystyried sut y byddan nhw’n addasu yn y dyfodol mewn byd sy’n newid o hyd. Nid yw’r sector gweithgynhyrchu bwyd a diod yn ddim gwahanol ac mae safle swyddi newydd wedi cael ei lansio gyda’r bwriad o baru swyddi gwag gyda phobl â sgiliau priodol sy’n chwilio am waith.