Cynhyrchion Cymreig yn cael eu gwobrwyo am eu Blas Gwych
Mae Great Taste, gwobrau bwyd a diod mwyaf poblogaidd y byd, wedi cyhoeddi eu sêr o 2021, ac mae llu o gynhyrchion bwyd a diod blasus o Gymru wedi cael sêl bendith aur. Mae 270 o gynhyrchion Cymreig eithriadol, yn amrywio o gynhyrchwyr crefftus annibynnol bach i ddosbarthwyr ar raddfa fawr, wedi bod yn llwyddiannus yn y gwobrau, gyda 190 o gynhyrchion yn cael 1-seren, 69 yn derbyn 2-seren ac 11 yn ennill clod uchel...