Dirprwy Weinidog yn dathlu Enwau Bwyd sydd wedi’u Hamddiffyn yn Sioe Frenhinol Cymru
Manteisiodd y Dirprwy Weinidog Ffermio a Bwyd, Rebecca Evans, ar y cyfle heddiw i longyfarch cynhyrchwyr bwyd a diod o Gymru am sicrhau statws Enw Bwyd wedi’u Hamddiffyn (PFN) yr UE. Mewn digwyddiad yn Neuadd Fwyd Sioe Frenhinol Cymru heddiw, cyflwynwyd placiau llechi Cymreig i ddathlu eu statws PFN i bedwar cynnyrch, sef PGI i Gig Oen Cymru, PGI i Gig Eidion Cymru, PGI i Dato Cynnar Sir Benfro a PDO i Halen Môn Meddai’r...