Bwrdd Bwyd a Diod yn galw ar y diwydiant i arwain y ffordd wrth i ymrwymiad gwastraff bwyd Courtauld gael ei gyhoeddi
Heddiw [15 Mawrth] cyhoeddodd Bwrdd Diwydiant Bwyd a Diod Cymru Ymrwymiad Courtauld newydd 2025. Mae’r cytundeb arloesol, sy’n dod â mudiadau ar draws y system fwyd at ei gilydd, yn apelio am y tro cyntaf i wneud cynhyrchu a defnyddio bwyd a diod yn fwy cynaliadwy i’r dyfodol. Mae’r ymrwymiad yn gosod targedau uchelgeisiol i leihau dwysedd adnoddau diwydiant bwyd a diod gwledydd Prydain gan un rhan o bump, gan arbed £20 biliwn, erbyn 2025...