Roedd allforion Bwyd a Diod Cymru werth £797 miliwn yn 2022, y gwerth blynyddol uchaf a gofnodwyd, meddai'r Gweinidog Materion Gwledig Lesley Griffiths. Pan oedd y RWAS yn ei anterth a thorfeydd yn mwynhau rhai o gynhyrchion bwyd a diod gorau Cymru, datgelodd y Gweinidog fod allforion y diwydiant wedi cynyddu £157m rhwng 2021 a 2022, sy'n gynnydd o 24.5%. Mae hyn yn gynnydd canrannol mwy na'r DU gyfan, a gynyddodd 21.6%. Y categorïau allforio...
Gwarchod Wisgi Cymreig Brag Sengl
Mae un o wirodydd mwyaf poblogaidd Cymru, y Wisgi Cymreig Brag Sengl, bellach wedi'i ddiogelu'n swyddogol ar ôl iddo sicrhau statws Dynodiad Daearyddol Gwarchodedig y DU. Dyma'r gwirod newydd cyntaf yn y DU i ennill statws Dynodiad Daearyddol ers lansio Dynodiad Daearyddol y DU a dyma hefyd wirod Dynodiad Daearyddol cyntaf Cymru. Wisgi Cymreig Brag Sengl bellach yw'r 20fed aelod o deulu cynhyrchion Dynodiad Daearyddol Cymru, gan ymuno â chynnyrch gwych eraill fel Enw Tarddiad...
Cymdeithas Goginio Cymru - Llwyddiant i lywydd cymdeithas goginio yng Ngwobrau Cyn-filwyr Cymru
Mae llywydd Cymdeithas Goginio Cymru (CAW), Arwyn Watkins, OBE, wedi ychwanegu gwobr arall eto at ei restr o anrhydeddau. Enillodd Wobr Arweinydd y Flwyddyn, a noddwyd gan Veteran Trees, yng Ngwobrau Cyn-filwyr Cymru eleni a daeth yn ail yng Ngwobr Entrepreneur y Flwyddyn, a noddwyd gan Pinnacle Document Solutions Group. Mae'r wobr yn cydnabod gwaith Arwyn fel llywydd CAW yn arwain cais llwyddiannus Tîm Cymru i ddod â Chyngres ac Expo Worldchefs i Ganolfan Gynadledda...
Cyhoeddi Cronfa ar gyfer Gwyliau a Digwyddiadau Bwyd a Diod
Mae cronfa gwerth £300,000 i ddarparu cymorth i wyliau a digwyddiadau bwyd a diod ledled Cymru yn agor i geisiadau heddiw (dydd Sadwrn, 1 Gorffennaf). Bydd y cynllun grantiau bach, a fydd yn mynd i’r afael â 10 cam allweddol ‘Gweledigaeth ar gyfer y Diwydiant Bwyd a Diod’ Llywodraeth Cymru, yn cefnogi gwyliau a digwyddiadau i ychwanegu gwerth at y diwydiant yng Nghymru a’r nod yw gwella mynediad ymwelwyr at fwyd a diod o Gymru...
Wythnos lwyddiannus yn arddangos diwydiant gwin Cymru sy’n tyfu
Mae diwydiant gwin Cymru wedi cael hwb ac wedi datblygu cysylltiadau cryfach â chynulleidfaoedd lletygarwch a manwerthu’r DU, yn ogystal â mwy o ymwybyddiaeth ymhlith defnyddwyr yn dilyn Wythnos Gwin Cymru. Yn ystod y dathliad (2-11 Mehefin 2023) cynhaliwyd nifer o ddigwyddiadau, teithiau tywys a hyrwyddiadau i roi cyfle i’r rhai sy’n hoff o win ddarganfod gwinllannoedd prydferth Cymru a blasu’r amrywiaeth eang o winoedd arobryn sydd ar gael. Cynhaliwyd digwyddiad masnach yn cynnwys chwe...
FareShare Cymru, Busnes Cymru - Mehefin 2023
Nod popeth y mae FareShare Cymru yn ei wneud yw brwydro’n erbyn newyn, a mynd i’r afael â gwastraff bwyd. Cenhadaeth FareShare Cymru yw gweithio mewn partneriaeth â’r diwydiant bwyd a diod er mwyn atal bwyd sy’n ddi-fudd yn fasnachol rhag dod yn wastraff bwyd. Yn y flwyddyn ddiwethaf, mae’r diwydiant bwyd wedi wynebu rhwystrau ar ffurf problemau cenedlaethol a byd-eang sydd wedi effeithio ar y cyflenwad o fwyd dros ben. Mae’r rhain wedi cynnwys...
CYNHYRCHYDD BISGEDI SAWRUS YN CAEL LLWYDDIANT YSGUBOL GYDAG OLEW HADAU RÊP SIR BENFRO
Mae dau fusnes bwyd artisan o Gymru'n cydweithio i greu cyfleoedd newydd ar gyfer eu cynnyrch a chynyddu manteision iechyd cwsmeriaid. Mae Cradoc's Savoury Biscuits o Aberhonddu yn defnyddio olew hadau rêp a gynhyrchwyd gan Pembrokeshire Gold ym Maenorbŷr fel rhan o'i ymgyrch i leihau cynnwys braster dirlawn ei gracers. Yn gynhyrchydd cynnyrch premiwm, mae ryseitiau Cradoc’s yn llawn gwenith, ceirch, llysiau a ffrwythau ffres, hadau, perlysiau a sbeisys. Mae'r cracers yn cael eu gwerthu...
Ymweliad Datblygu Masnach i Norwy a Denmarc
Fe'ch gwahoddir i gymryd rhan mewn ymweliad datblygu masnach bwyd a diod a Norwy a Denmarc. Gyda rhai o’r Cynnyrch Gros Domestig uchaf y pen ledled y byd, mae gan y gwledydd Nordig farchnad wych ar gyfer cynnyrch artisan, arbennig, o safon. Mae busnesau bwyd a diod Cymru eisoes yn gwerthu cynnyrch i’r marchnadoedd hyn ac maen nhw’n cynnig adborth cadarnhaol.
Cynhyrchwyr o Gymru yn blasu’r Afal Mawr
Mae detholiad o gwmnïau bwyd a diod o Gymru yn mynd i Efrog Newydd i fynychu’r Summer Fancy Food Show 2023 a gynhelir gan y Speciality Food Association yn ddiweddarach y mis hwn. Gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru, bydd cynrychiolwyr o’r cwmnïau yn mynychu’r digwyddiad masnach bwyd arbenigol mwyaf yn America rhwng 25 a 27 Mehefin 2023. Dyma’r ail flwyddyn yn olynol i Lywodraeth Cymru fynd â dirprwyaeth i’r digwyddiad, sy’n un o’r enghreifftiau mwyaf blaenllaw...