Mae BlasCymru/TasteWales 2021 eisoes wedi helpu i sbarduno gwerth tua £14m mewn bargeinion busnes newydd a darpar fargeinion ar gyfer busnesau bwyd a diod o Gymru, yn ôl yr adborth cychwynnol. Roedd y digwyddiad a gynhaliwyd ym mis Hydref yn ICCW yng Nghasnewydd yn gyfle i arddangos bwyd a diod o Gymru. Gwnaeth dros 100 o fusnesau bwyd a diod o Gymru gymryd rhan yn y digwyddiad a chafodd 21 o'r rhain eu sefydlu yn...
Fferm wenyn o Gymru yn ennill gwobr cynaliadwyedd fawreddog
Cyhoeddwyd yn ddiweddar mai Fferm Cilgwenyn yn Sir Gaerfyrddin yw enillydd Gwobr Seren ar ei Chynnydd Cynaliadwyedd y Ffair Bwydydd Da ac Arbenigol oherwydd ei hagwedd gyfannol tuag at fusnes ar ôl trawsnewid pwll glo segur yn fferm wenyn newydd sbon sy'n cynnig mêl carbon niwtral. Dechreuodd Rhodri Owen a Richard Jones eu busnes masnachol yn Llangennech yn 2010 ar ôl cadw gwenyn am flynyddoedd lawer cyn hynny. Maen nhw bellach yn cynhyrchu mêl crefftus...
Y NADOLIG YN DOD YN GYNNAR I GAWS GLAS CYMREIG NEWYDD
Wrth i’r Nadolig agosáu, gall y gwneuthurwr caws newydd Clare Jones edrych yn ôl ar flwyddyn arbennig yn hanes ei chaws glas arobryn, Trefaldwyn Blue. Mae’r misoedd diwethaf wedi bod fel ffair i’r athrawes o Drefaldwyn sydd bellach yn wneuthurwr caws. Dim ond ychydig wythnosau sydd ers iddi ennill gwobr am y caws gorau o Gymru yng Ngwobrau Caws y Byd yn Sbaen. Y wobr fyd-eang hon yw pinacl y chwe mis ardderchog diwethaf, cyfnod...
Pa mor dymhorol ydych chi'n bwyta ac yn siopa am eich bwyd?
Nid yn unig y mae bwyta bwyd sydd yn ei dymor yn golygu cynhwysion mwy ffres a mwy blasus, mae hefyd yn wych i'r amgylchedd. Mae siopa am fwyd yn ei dymor yn golygu ei fod yn fwy fforddiadwy gyda digonedd ohono ar gael ar garreg y drws.
MAE BWYD A DIOD O GYMRU YN RHYWBETH I'W GANU AM Y NADOLIG HWN
Mae cynhyrchwyr bwyd a diod o Gymru yn arddangos eu cynhyrchion dros gyfnod y Nadolig trwy gyfrwng cân, gyda fersiwn arbennig o ‘Deuddeg diwrnod y Nadolig’. Fel rhan o ymgyrch Bwyd a Diod Cymru Llywodraeth Cymru #CaruCymruCaruBlas #LoveWalesLoveTaste i annog siopwyr i brynu cynhyrchion o Gymru’r Nadolig yma, cymerodd llu o gynhyrchwyr ran mewn fideos yn cynnwys fersiwn arbennig o ‘Deuddeg diwrnod y Nadolig’. Perfformiwyd y geiriau dwyieithog gan grŵp o gantorion o Dde Cymru...
Lansio gweledigaeth newydd ar gyfer bwyd a diod wrth i'r Ffair Aeaf ddychwelyd
Bydd y Gweinidog Materion Gwledig Lesley Griffiths yn gwneud y cyhoeddiad heddiw wrth iddi ymweld â Ffair Aeaf Frenhinol Cymru sy'n dychwelyd ar ôl cael ei chanslo y llynedd oherwydd y pandemig. Bydd Y Weledigaeth ar gyfer y diwydiant Bwyd a Diod o 2021 yn adeiladu ar lwyddiant y sector yng Nghymru gyda'r nod allweddol o helpu i sicrhau diwydiant bwyd a diod ffyniannus sydd ag enw da yn fyd-eang am ragoriaeth. Mae amcanion y...
Cymreictod yn hollbwysig i giniawyr a gwesteion, yn ôl gwaith ymchwil newydd
Yn ôl gwaith ymchwil newydd, mae mwy o bobl yn dymuno gweld prydau bwyd sy’n cynnwys cynhwysion Cymreig mewn llefydd fel bwytai, caffis a siopau tecawê. Cymerodd mwy na 1,400 o bobl ran yn yr arolwg, ac roedd 90% o westeion o’r farn ei bod hi’n bwysig i leoliadau fod â dewis eang o brydau bwyd sy’n cynnwys cynhwysion Cymreig – dyma gynnydd ers 2017, pan oedd y ffigur yn 77%. Ymhellach, dengys gwaith ymchwil...
Prosiectau Menter a Busnes yn Dathlu Llwyddiant Cymorth ar y Cyd
Mae cymorth ar y cyd wedi bod yn allweddol i sicrhau llwyddiant cwmni cynhyrchu porc newydd o Gymru, sef Mochyn Mawr. Pan gysylltodd Ann Lewis, ffermwr moch o ardal Cwm Tawe gyda Menter Moch Cymru – prosiect Menter a Busnes sy’n cefnogi a datblygu’r diwydiant moch yng Nghymru – cafodd gyfle i dderbyn llawer iawn o gyngor busnes ac ymarferol. Trwy raglen Menter Moch Cymru (MMC), cysylltodd Ann gyda rhaglen Cywain, un o chwaer brosiectau...
Cynhyrchwyr Mêl o Gymru ar eu Ffordd i’r BBC Good Food Show
Bydd cynhyrchwyr mêl o Gymru’n gwneud eu hymddangosiad cyntaf yn hwyrach y mis hwn yn un o ddigwyddiadau bwyd a diod mwyaf y DU – y BBC Good Food Show (Tachwedd 25ain-28ain). Bydd Bee Welsh Honey, Gwenynfa Pen y Bryn Apiary a Mêl Gwenyn Gruffydd yn arddangos eu cynnyrch yn y digwyddiad defnyddwyr mawr yn yr NEC yn Birmingham. Mae’r tri’n enillwyr y Great Taste Award, ac yn cymryd rhan dan nawdd Rhwydwaith Clwstwr Mêl...
CANOLFAN ARLOESI busnes yn rhoi cyfle i gynhyrchwyr annibynnol arddangos eu cynnyrch a chael cyngor a chefnogaeth.
O ddydd Mawrth 9 Tachwedd, bydd y White Rose Centre yn y dre’ yn gartref i Caru Busnesau Lleol @ Rhyl am 8 wythnos. Gyda chefnogaeth gan Gyngor Sir Ddinbych, Antur Cymru a Chronfa Cymunedau Arfordirol Trawsnewid Trefi, bwriad y prosiect yw denu busnesau bwyd a diod newydd, busnesau sydd yn bodoli eisoes yn ogystal ȃ’r rhai hynny sydd yn ystyried dechrau busnes i gymryd gofod er mwyn arddangos eu cynnyrch ac i gymryd mantais...