Mae ein bwytai gorau yng Nghymru yn dathlu llwyddiant, gyda rhai yn ennill gwobrau newydd tra bod eraill yn cadw eu gwobrau presennol gan ganllaw bwytai mwyaf mawreddog y DU ac Iwerddon - y Michelin Guide Great Britain and Ireland 2022. Cafodd cyfanswm o saith bwyty yng Nghymru wobrau. Eisoes yn fwyty un seren Michelin, mae bwyty Gareth Ward, Ynyshir ym Machynlleth wedi’i ddyrchafu i ddwy seren Michelin, y ddwy seren gyntaf erioed i’w dyfarnu...
Busnesau prosesu a gweithgynhyrchu bwyd a diod yn cael eu cydnabod am eu gwasanaeth i’r diwydiant
Cafodd talentau busnesau prosesu a gweithgynhyrchu bwyd a diod Cymru eu cydnabod yn ddiweddar (nos Iau 24 Chwefror) yng ngwobrau Lantra Cymru 2021. Mae gwobrau Lantra Cymru yn cydnabod mentrau, sgiliau a brwdfrydedd unigolion sy’n dilyn gyrfaoedd yn sectorau’r amgylchedd, diwydiannau’r tir a gweithgynhyrchu bwyd. Dyma'r tro cyntaf i raglen Sgiliau Bwyd Cymru gael categori yng Ngwobrau Lantra Cymru. Mae’n gydnabyddiaeth o’r busnesau gweithgynhyrchu a phrosesu bwyd a diod sydd wedi ymgymryd â hyfforddiant drwy’r...
Angerdd a gobaith am y diwydiant lletygarwch mewn gornest goginio
Cafodd y beirniaid eu calonogi gan yr angerdd a’r gobaith am y diwydiant lletygarwch a ddangoswyd gan bawb oedd yn ymwneud â Phencampwriaethau Coginio Rhyngwladol Cymru (WICC) mewn tridiau o gystadlu. Roedd croeso mawr i’r achlysur blynyddol, poblogaidd, a drefnir gan Gymdeithas Goginio Cymru (CAW), ar gampws Grŵp Llandrillo Menai yn Llandrillo-yn-Rhos wedi absenoldeb o ddwy flynedd oherwydd y pandemig. Y prif noddwr yw Bwyd a Diod i Gymru, yr adran yn Llywodraeth Cymru sy’n...
Cyfle i roi cynnig ar fwyd a diod o Gymru cyn y rygbi yn Llundain
Mae gan bob un ohonyn nhw stondin ym Marchnad Cynhyrchwyr #CaruCymruCaruBlas #LoveWalesLoveTaste yn Ely’s Yard, ger Brick Lane yng nghanol Dwyrain Llundain. Bydd cynhyrchwyr fel The Coconut Kitchen o Gonwy, Black Mountain Roast o’r Gelli Gandryll a Distyllfa Ysbryd Cymru o Gasnewydd yn arddangos eu cynnyrch. Bydd cyfanswm o 16 o fusnesau o Gymru ac maen nhw’n annog pobl i alw heibio i roi cynnig ar eu cynnyrch gwych. Bydd Hannah Turner o Brooke's Wye...
Sgiliau Bwyd Cymru – yn helpu busnesau gweithgynhyrchu bwyd a diod i fod yn fwy cynaliadwy
Mae datblygu cynaliadwy wrth wraidd ein deddfwriaeth sefydlu yma yng Nghymru ac i gefnogi Llywodraeth Cymru i gyflawni ei thargedau ar gynaliadwyedd, mae prosiect Sgiliau Bwyd Cymru a gyflenwir gan Lantra, wedi gweithio’n ddiweddar ar y cyd â Cynnal Cymru ac Eco Studio i ddatblygu Rhaglen Hyfforddiant Cynaliadwyedd yn benodol ar gyfer y diwydiant gweithgynhyrchu bwyd a diod. Pwrpas y cwrs hyfforddi yw rhoi'r wybodaeth a'r sgiliau i gyfranogwyr ddatblygu systemau a gweithredoedd sy'n briodol...
Prentisiaid yn chwarae rhan bwysig mewn bragdy
Mae prentisiaid Budweiser wedi cwrdd â’r Gweinidog Materion Gwledig, Lesley Griffiths, a thrafod manteision mynd yn brentis gyda’r cwmni. Yn ystod eu hymweliad â’r Senedd yn ystod Wythnos Prentisiaid Cymru, cafodd 10 o brentisiaid y cwmni bragu gyfle i siarad am eu gwaith gyda’r cwmni ar ei safle ym Magwyr ynghyd â’u gobeithion at y dyfodol. Mae Wythnos Prentisiaid Cymru yn tynnu sylw at waith caled ac ymroddiad prentisiaid a chefnogaeth ac ymrwymiad eu cyflogwyr...
CYDWEITHREDU YN DOD Â MÊL AC IEIR YNGHYD
Mae awydd i warchod a gwella’r boblogaeth gwenyn a pheillwyr yng Nghymru wedi arwain at brosiect arloesol rhwng dau fusnes sydd, yn ôl pob golwg, yn hollol wahanol. Er eu bod yn dod o wahanol rannau o’r diwydiant bwyd, mae gan Ellis Eggs Ltd a Bee Welsh Honey awydd cyffredin i hybu’r nifer o wenyn a pheillwyr a thynnu sylw at eu heffaith hollbwysig ar yr amgylchedd. Mae Jason Ellis, perchennog y cwmni wyau o...
Lle amlwg ar gyfer bwyd a diod o Gymru mewn digwyddiad mawr yn Dubai
Bydd cynhyrchwyr bwyd a diod o Gymru yn arddangos eu cynnyrch yn Dubai ym mis Chwefror yn Gulfood, un o arddangosfeydd masnach bwyd a diod mwyaf y byd. Mae'r digwyddiad yn nodi cyfle arwyddocaol i fusnesau Cymru yn y sector deithio i ddigwyddiad byd-eang mawr. Mae Gulfood yn ddigwyddiad pump diwrnod a gynhelir rhwng 13–17 Chwefror yng Nghanolfan Fasnach y Byd, Dubai. Bydd brandiau rhyngwladol yn arddangos eu cynnyrch a'u gwasanaethau bwyd a diod diweddaraf...
Y Clwstwr Uwchraddio Cynaliadwy yn cofrestru'r hanner canfed aelod
Wrth i’r Clwstwr Uwchraddio Cynaliadwy gyrraedd ei ben-blwydd cyntaf, rydym yn falch iawn o fod wedi cofrestru ein hanner canfed aelod busnes. Dan arweiniad y Rheolwr Clwstwr Rhanbarthol ar gyfer de-orllewin Cymru, Andrew Macpherson, y 50fed busnes i ymuno â’r Clwstwr yw The Welsh Saucery yng ngogledd Sir Benfro, sy’n creu sawsiau artisan i gyd-fynd â chynnyrch Cymreig. Dywedodd y cyd-berchennog, Steve Lewis, “Rydym yn falch iawn o gael ein derbyn i’r Clwstwr Uwchraddio Cynaliadwy...
Arolwg Strategaeth Bwyd Cymunedol Cymru 2022
Mae Llywodraeth Cymru yn datblygu Strategaeth Bwyd Cymunedol. Hoffem glywed gan y rhai sydd eisoes yn ymwneud â phrosiectau / mentrau bwyd cymunedol yng Nghymru, i ddeall beth mae bwyd cymunedol yn ei olygu i chi, ac i ddysgu am eich profiad o fod yn rhan o brosiectau / mentrau bwyd cymunedol. Nid ymgynghoriad ffurfiol mo hwn a bydd cyfleoedd pellach i ymgysylltu. Byddem yn ddiolchgar am eich mewnbwn trwy'r arolwg byr hwn. Ni ddylai...