Do Goodly Yn Gwneud Yn Dda – Cynhyrchydd Dipiau Yn Cyrraedd Yr Archfarchnadoedd
Dim ond blwyddyn ers lansio’u busnes, mae’r cynhyrchydd bwyd Cymreig sy’n seiliedig ar blanhigion, Do Goodly Dips, wedi sicrhau eu rhestriad cenedlaethol cyntaf gyda manwerthwr mawr. Mae dipiau Do Goodly bellach ar gael mewn 60 o siopau Morrisons yng Nghymru a De Orllewin Lloegr, a ledled y wlad drwy’r archfarchnad ar-lein Ocado. Mae’r cwmni sydd wedi’i leoli yn Cross Hands yn ganlyniad i gydweithrediad rhwng ffrindiau Richard Abbey a Scott Davies. Dywedodd Richard, “Mae Scott...