Lansio platfform e-fasnach lleol newydd i helpu manwerthwyr bwyd a diod bach, annibynnol yng ngogledd-orllewin Cymru
Mae Siop.io yn blatfform e-fasnach lleol dwyieithog sydd wedi cael ei ddatblygu dros y flwyddyn ddiwethaf er mwyn darparu ffordd well i fanwerthwyr bwyd a diod annibynnol ar draws Gwynedd ac Ynys Môn gyrraedd eu cymunedau lleol. Cyn bo hir bydd bwytai, tafarndai a siopau tecawê hefyd yn gallu elwa o'r gwasanaeth, a fydd yn eu galluogi i gystadlu gydag archfarchnadoedd yn fwy effeithiol drwy gyflenwi archebion ar-lein sy’n cael eu gosod yn lleol.