Dathlu amrywiaeth cymuned Pobl Ddu, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol Cymru gyda chasgliad o ryseitiau o wahanol wledydd
Mae casgliad newydd o ryseitiau sy'n tynnu dŵr i’r dannedd ac yn dod â bwydlen o brydau blasus o bob cwr o'r byd at ei gilydd bellach ar gael. Ei enw yw 'The Melting Pot', ac mae'r 30 o ryseitiau a gasglwyd gan Maggie Ogunbanwo gyda chyfraniadau gan aelodau o'r gymuned lleiafrifoedd ethnig yng Nghymru yn dathlu amrywiaeth ddiwylliannol y wlad.