Cwmnïau bwyd a diod o Gymru yn troi eu golygon at farchnadoedd newydd y Gwlff
Mae ymweliad datblygu masnach rhithwir diweddaraf Llywodraeth Cymru yn gobeithio adeiladu ar y buddsoddiad a wnaed eisoes yn rhanbarth y Dwyrain Canol dros y blynyddoedd diwethaf, ac mae’n cynnwys nid un wlad ond pedair, Sawdi-Arabia, Kuwait, Oman a Bahrain. Fel rhan o strategaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer y sector bwyd a diod i ddatblygu a chyrchu marchnadoedd newydd mewn ffyrdd newydd dramor, dyma ymweliad datblygu masnach bwyd a diod cyntaf Cymru yn y Dwyrain Canol...