Cynhyrchwyr o Gymru yn mynd i Efrog Newydd ar gyfer Sioe Bwyd Arbenigol
Mae detholiad o gwmnïau bwyd a diod o Gymru yn mynd i Efrog Newydd i fynychu Sioe Summer Fancy Food 2022 y Gymdeithas Bwyd Arbenigol rhwng 12 a 14 Mehefin 2022. Gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru, bydd cynrychiolwyr o bedwar cwmni o Gymru yn mynychu Summer Fancy Food, y digwyddiad masnach bwyd arbenigol mwyaf yn America a’r brif arddangosfa o arloesi yn y diwydiant, a fydd yn dod â chynhyrchwyr, prynwyr a gweithwyr proffesiynol gorau’r diwydiant...