Gweithdai Hyfforddiant Iechyd a Lles Anifeiliaid

Animal Health and Welfare Training
Animal Health and Welfare Training

A oes clefyd neu fater iechyd anifeiliaid penodol sy’n effeithio ar eich da byw yn ogystal â pherfformiad eich busnes?

Gall ffermwyr cymwys sydd wedi cofrestru gyda Cyswllt Ffermio archebu eu lle(oedd) mewn un neu fwy o’r gweithdai hyfforddiant sydd wedi’u hariannu’n llawn, a ddarperir gan filfeddygon lleol ledled Cymru.

Mae pynciau’r gweithdai’n cyd-fynd â blaenoriaethau Iechyd a Lles Anifeiliaid presennol Llywodraeth Cymru, a byddant yn cynnwys y clefydau neu’r materion a restrir isod:

  • Cynllunio Iechyd Anifeiliaid
  • Ymwrthedd gwrthficrobaidd ac anthelminitig
  • TB Buchol
  • BVD
  • Clefyd Johne
  • Cloffni yn y fuches laeth
  • Rheoli parasitiaid mewn defaid
  • Lleihau mastitis
  • Lleihau colledion cyn ŵyna
  • Lleihau colledion ar ôl ŵyna

 

Bydd pob un o’r gweithdai tair awr o hyd yn darparu gwybodaeth ac arweiniad ymarferol ynglŷn â materion iechyd anifeiliaid penodol gan gynnwys:

  • Bioddiogelwch a throsglwyddo clefydau
  • Arwyddion clinigol a diagnosis
  • Trin a rheoli
  • Goblygiadau economaidd

Rhestr o filfeddygon ledled Cymru:

Mae'n rhaid i bob cleient fod wedi cofrestru gyda Cyswllt Ffermio cyn mynychu gweithdy. Bydd pob gweithdy a gwblheir yn cael ei gofnodi ar eich proffil datblygiad proffesiynol parhaus a byddwch yn derbyn tystysgrif presenoldeb gan Lantra.

Mae dyddiadau ar gyfer pob gweithdy sydd i ddod ar gael ar dudalen ddigwyddiadau Cyswllt Ffermio.

Cliciwch yma i weld ein Hysbysiad Preifatrwydd ar gyfer y gweithdai Iechyd a Lles Anifeiliaid.

Er mwyn ymgeisio ar gyfer un neu fwy o’r gweithdai Iechyd a Lles Anifeiliaid, bydd angen i chi gwblhau ffurflen datgan diddordeb sydd ar gael yma.


Related Pages:


Latest news and technical articles related to Skills and Training