Bydd Bwyd Môr Cymreig yn dyblu ei bresenoldeb fis nesaf yn nigwyddiad byd-eang mwyaf y diwydiant - Seafood Expo Global (Ebrill 25 - 27). Yn cael ei gynnal yn Barcelona, bydd mwy nag 80 o wledydd yn arddangos yn y digwyddiad, a welodd fwy na 1,550 o gwmnïau yn 2022 yn cystadlu am sylw bron i 27,000 o weithwyr proffesiynol y diwydiant yn chwilio am bopeth o fwyd môr i offer prosesu. Mae’r ddinas Sbaenaidd...
Cynhadledd Mewnwelediad 2023: Ymdrechu a Ffynnu
Mae cynhadledd Rhaglen Mewnwelediad Bwyd a Diod Cymru eleni yn cynnwys 5 sesiwn â thema dros 4 diwrnod, yn mynd i'r afael â'r Sefyllfa Economaidd, Allforio, Datblygu Cynnyrch Newydd (NPD), Manwerthu, ac Oddi Allan i'r Cartref. Mae gennym amrywiaeth cyffrous o siaradwyr o bartneriaid mewnwelediad o'r radd flaenaf, megis Kantar, IGD, CGA a thefoodpeople, yn ogystal ag arbenigwyr o'r Rhaglen Mewnwelediad. Bydd trafodaethau panel ac astudiaethau achos gyda busnesau yn arddangos sut all eich busnes...
Busnesau bwyd a diod Cymru yn troi eu golygon at Asia
Mae cwmnïau bwyd a diod o Gymru yn paratoi i fynychu un o brif ddigwyddiadau diwydiant bwyd y byd yn Tokyo yr wythnos nesaf (7-10 Mawrth 2023). Mae Foodex Japan yn un o arddangosfeydd bwyd a diod rhyngwladol mwyaf Asia, ac mae'n cynnig cyfleoedd i ehangu busnesau ac yn cynnig atebion i'r diwydiant. Gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru, bydd chwe chwmni bwyd a diod o Gymru yn mynychu Foodex o dan faner Cymru, pob un eisiau...
Cig Oen Cymru yn gweld cyfleoedd wrth hybu marchnata yn yr Unol Daleithiau
Mae Hybu Cig Cymru (HCC), Llywodraeth Cymru a holl gyflenwyr Cig Oen Cymru PGI ar fin cydweithio i lansio ymgyrch fawr i fanteisio ar allforion i America. Cafodd y cyfyngiadau ar fewnforio cig oen o’r DU i UDA eu codi o’r diwedd y llynedd, ac mae proseswyr o Gymru wedi bod yn arwain y ffordd o ran cael yr archwiliadau a’r ardystiad angenrheidiol er mwyn dechrau allforio. Bydd y rhaglen hyrwyddo gychwynnol yn dechrau gyda...
Cennin Pedr ar Ffurf Calon yn arwydd o Hoffter o Fwyd a Diod o Gymru ar Ddydd Gŵyl Dewi
Ddydd Gŵyl Dewi eleni, bydd ymwelwyr â Chastell Caerdydd yn gallu dangos eu bod wrth eu boddau â bwyd a diod o Gymru drwy rannu ffotograffau o osodiad cennin Pedr ar ffurf calon a gomisiynwyd yn arbennig ar gyfer yr achlysur. Mae'r gosodwaith yn cynnwys miloedd o gennin Pedr ac fe’i crëwyd fel rhan o ymgyrch #CaruCymruCaruBlas #LoveWalesLoveTaste o dan Raglen Llywodraeth Cymru i Ddatblygu Masnach mewn Bwydydd a Diodydd o Gymru. Mae'r gosodwaith, sydd...
Busnesau o Gymru yn teithio i Gulfood ar gyfer ymgyrch allforio
Bydd cynhyrchwyr bwyd a diod o Gymru yn teithio i Dubai yn ddiweddarach y mis hwn i fynychu Gulfood, un o arddangosfeydd masnach bwyd a diod mwyaf y byd sy’n ymestyn allan i wledydd allweddol o fewn rhanbarth y Dwyrain Canol a Gogledd Affrica (MENA). Bydd Gulfood yn cael ei gynnal rhwng 20-24 Chwefror yng Nghanolfan Masnach y Byd Dubai, ble bydd brandiau rhyngwladol yn arddangos eu cynhyrchion a’u gwasanaethau bwyd a diod diweddaraf. Mae'r...
Yr holl gynhwysion i helpu busnes yn y Fflint i dyfu
Mae’r Pudding Compartment, a sefydlwyd gan Steve West yn 2007 ac sydd wedi’i leoli ar Ystad Ddiwydiannol Manor, yn cynhyrchu amrywiaeth o gynhyrchion becws fel cynhyrchion pobi hambwrdd, cwcis, cynhyrchion cyflym a theisennau torth. Mae cyfleuster newydd y cwmni yn golygu bod y busnes wedi mwy na dyblu ei ardal gynhyrchu a buddsoddi mewn offer newydd. Mae’r Pudding Compartment wedi cael mwy na £100,000 gan Gynllun Buddsoddi mewn Busnesau Bwyd Llywodraeth Cymru i gefnogi’r prosiect...
Cwmni coffi o Gymru yn sicrhau cytundeb newydd yn yr Unol Daleithiau a Chanada
Mae'r Gweinidog Materion Gwledig Lesley Griffiths wedi llongyfarch Ferrari's Coffee ym Mhen-y-bont ar ôl i'r cwmni sicrhau cytundeb newydd fydd yn gweld eu cynnyrch ar gael yn yr UDA a Chanada y flwyddyn nesaf. Aeth y Gweinidog i weld y cyfleusterau a chlywed sut mae cefnogaeth Llywodraeth Cymru wedi helpu'r cwmni i sicrhau cytundeb sylweddol i gyflenwi tri o'i gynnyrch i fanwerthwr mawr ar draws yr Iwerydd. Daw'r newyddion wrth i Lywodraeth Cymru gyhoeddi yn...
Diogelu Hawliau Gweithwyr yn y Sector Bwyd a Diod yng Nghymru
Bydd Sgiliau Bwyd Cymru, gan weithio mewn partneriaeth â Chyfarwyddiaeth Partneriaeth Gymdeithasol, Cyflogadwyedd a Gwaith Teg Llywodraeth Cymru, yn cynnal 3 gweithdy ar-lein ym mis Ionawr 2023 i roi cyfle i ddysgu mwy am hawliau gweithwyr yng nghyd-destun y sector bwyd a diod yng Nghymru. Bydd y rhai sy’n cymryd rhan yn clywed ac yn ymgysylltu â siaradwyr o amrywiaeth o sefydliadau sy’n hyrwyddo hawliau gweithwyr ac yn mynd i’r afael â cham-drin a chamfanteisio...
Sgiliau Bwyd Cymru – Gweithdai Hyfforddiant Datgarboneiddio
Gan adeiladu ar lwyddiant prosiect peilot a gynhaliwyd yn yr hydref, bydd Sgiliau Bwyd Cymru, mewn partneriaeth â GEP Environmental, yn cyflwyno cyfres o weithdai hyfforddiant datgarboneiddio yn gynnar yn 2023. Mae'r gweithdai'n canolbwyntio ar godi ymwybyddiaeth o bwysigrwydd symud tuag at sero net i’r sector, Cymru, y DU a’r manteision byd-eang drwy ddarparu’r sgiliau cywir i fuddiolwyr i wneud penderfyniadau ar sut y gallant symud tuag at sero net, rhannu arfer gorau gyda chydweithwyr...