Dathlu Cysylltiadau Celtaidd yn 200fed Sioe Frenhinol yr Ucheldir
Bydd cynhyrchwyr bwyd a diod Cymru yn mynd i Gaeredin y mis hwn i gymryd rhan yn Sioe Frenhinol yr Ucheldir, prif ddigwyddiad y calendr amaethyddol yn yr Alban. A gyda 2022 yn nodi 200 mlynedd ers cynnal Sioe Frenhinol yr Ucheldir am y tro cyntaf yn 1822, mae’r digwyddiad yn argoeli i fod yn ddathliad gwych. Mae stondin fasnach Cymru’n rhan o’r prosiect “Cysylltiadau Celtaidd”, sy’n cael ei ariannu gan y Gronfa Datgarboneiddio ac...