Datgelu cydweithrediad fydd yn hwb i economi bwyd-amaeth Cymru
Ar 19 Ebrill , aeth Lesley Griffiths, Gweinidog Llywodraeth Cymru dros Faterion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd i Grŵp Llandrillo Menai i ddathlu cyhoeddi partneriaeth rhwng Grŵp Llandrillo Menai ac AMRC Cymru, gyda’r nod o drawsnewid yr economi wledig drwy ddatblygu sgiliau ac archwilio technolegau newydd ar gyfer y sector bwyd-amaeth. Mae’r bartneriaeth hon yn gysylltiedig â Hwb Economi Wledig Glynllifon, a’i diben yw creu gweithlu bwyd-amaeth o’r radd flaenaf gyda’r lefelau uchaf o...