Bydd y Gweinidog Materion Gwledig Lesley Griffiths yn gwneud y cyhoeddiad heddiw wrth iddi ymweld â Ffair Aeaf Frenhinol Cymru sy'n dychwelyd ar ôl cael ei chanslo y llynedd oherwydd y pandemig. Bydd Y Weledigaeth ar gyfer y diwydiant Bwyd a Diod o 2021 yn adeiladu ar lwyddiant y sector yng Nghymru gyda'r nod allweddol o helpu i sicrhau diwydiant bwyd a diod ffyniannus sydd ag enw da yn fyd-eang am ragoriaeth. Mae amcanion y...
Cymreictod yn hollbwysig i giniawyr a gwesteion, yn ôl gwaith ymchwil newydd
Yn ôl gwaith ymchwil newydd, mae mwy o bobl yn dymuno gweld prydau bwyd sy’n cynnwys cynhwysion Cymreig mewn llefydd fel bwytai, caffis a siopau tecawê. Cymerodd mwy na 1,400 o bobl ran yn yr arolwg, ac roedd 90% o westeion o’r farn ei bod hi’n bwysig i leoliadau fod â dewis eang o brydau bwyd sy’n cynnwys cynhwysion Cymreig – dyma gynnydd ers 2017, pan oedd y ffigur yn 77%. Ymhellach, dengys gwaith ymchwil...
Prosiectau Menter a Busnes yn Dathlu Llwyddiant Cymorth ar y Cyd
Mae cymorth ar y cyd wedi bod yn allweddol i sicrhau llwyddiant cwmni cynhyrchu porc newydd o Gymru, sef Mochyn Mawr. Pan gysylltodd Ann Lewis, ffermwr moch o ardal Cwm Tawe gyda Menter Moch Cymru – prosiect Menter a Busnes sy’n cefnogi a datblygu’r diwydiant moch yng Nghymru – cafodd gyfle i dderbyn llawer iawn o gyngor busnes ac ymarferol. Trwy raglen Menter Moch Cymru (MMC), cysylltodd Ann gyda rhaglen Cywain, un o chwaer brosiectau...
Cynhyrchwyr Mêl o Gymru ar eu Ffordd i’r BBC Good Food Show
Bydd cynhyrchwyr mêl o Gymru’n gwneud eu hymddangosiad cyntaf yn hwyrach y mis hwn yn un o ddigwyddiadau bwyd a diod mwyaf y DU – y BBC Good Food Show (Tachwedd 25ain-28ain). Bydd Bee Welsh Honey, Gwenynfa Pen y Bryn Apiary a Mêl Gwenyn Gruffydd yn arddangos eu cynnyrch yn y digwyddiad defnyddwyr mawr yn yr NEC yn Birmingham. Mae’r tri’n enillwyr y Great Taste Award, ac yn cymryd rhan dan nawdd Rhwydwaith Clwstwr Mêl...
Gweminar Ynni: Oes gennych chi’r pŵer i ddewis?
Yn dilyn codiadau sylweddol mewn costau ynni yn 2021, mae'r Clwstwr Uwchraddio Cynaliadwy yn eich gwahodd i ymuno â gweminar ar-lein I ddefnyddwyr ynni fynd i'r afael â rhai o'r pynciau allweddol y gallai eich busnes fod yn eu gofyn eisoes Am ragor o wybodaeth cliciwch yma
Cynhyrchwyr Bwyd a Diod o Gymru Gyda'u Bryd ar Dyfu'n Serennu yn Nigwyddiad BlasCymru/TasteWales
Mae grŵp o ‘Sêr y Dyfodol’ o sector bwyd a diod Cymru wedi cael cyfle i arddangos eu cynnyrch yn ystod prif ddigwyddiad bwyd a diod Cymru - BlasCymru/TasteWales 2021. Cynhaliwyd y digwyddiad ar gyfer y diwydiant cyfan yng Nghanolfan Gynadledda Ryngwladol Cymru yn y Celtic Manor, Casnewydd ar 27-28 Hydref. Roedd BlasCymru/TasteWales yn cynnwys dros 100 o gynhyrchwyr bwyd a diod o Gymru a fanteisiodd ar y cyfle i gyflwyno dros 200 o gynhyrchion...
CANOLFAN ARLOESI busnes yn rhoi cyfle i gynhyrchwyr annibynnol arddangos eu cynnyrch a chael cyngor a chefnogaeth.
O ddydd Mawrth 9 Tachwedd, bydd y White Rose Centre yn y dre’ yn gartref i Caru Busnesau Lleol @ Rhyl am 8 wythnos. Gyda chefnogaeth gan Gyngor Sir Ddinbych, Antur Cymru a Chronfa Cymunedau Arfordirol Trawsnewid Trefi, bwriad y prosiect yw denu busnesau bwyd a diod newydd, busnesau sydd yn bodoli eisoes yn ogystal ȃ’r rhai hynny sydd yn ystyried dechrau busnes i gymryd gofod er mwyn arddangos eu cynnyrch ac i gymryd mantais...
National Geographic Traveller (UK) a Bwyd a Diod Cymru yn cydweithio
Mae National Geographic Traveller (UK) wedi ymuno â Bwyd a Diod Cymru i lansio menter aml-gam newydd a ddyluniwyd i arddangos y wlad fel cyrchfan fwyd. Canolbwynt y prosiect yw llawlyfr 52 tudalen newydd am Gymru sy'n canolbwyntio ar fwyd, a noddwyd gan Bwyd a Diod Cymru a'i ddosbarthu gyda rhifyn mis Hydref o National Geographic Traveller - y tro cyntaf i lawlyfr coginio gael ei ddosbarthu gyda'r cylchgrawn yn ei hanes 10 mlynedd. Mae'r...
Hwb o £185miliwn i ddiwydiant bwyd a diod Cymru gan Brosiect HELIX
Daw’r newydd ar ail ddiwrnod y digwyddiad bwyd a diod mawr sy’n dychwelyd yng Nghymru, BlasCymru/TasteWales, a gynhelir yng Nghasnewydd. Menter Cymru gyfan yw Prosiect HELIX, a ddechreuodd yn 2016, sy’n cael ei gyflwyno gan Arloesi Bwyd Cymru, sef partneriaeth o dair canolfan bwyd yn Ynys Môn, Ceredigion a Chaerdydd. Mae’n cefnogi cwmnïau Cymru i ddatblygu cynhyrchion arloesol o gamau’r cysyniadau, dylunio, datblygu a gweithgynhyrchu, hyd at fasged siopa’r cwsmer, gan helpu busnesau i dyfu...
BlasCymru / TasteWales
Mae Blas Cymru/Taste Wales yn cael ei drefnu gan yr Is-adran Fwyd bob dwy flynedd i ddod â chynhyrchwyr a gweithgynhyrchwyr o Gymru ynghyd i gwrdd â phrynwyr o'r DU a thu hwnt. Yn ogystal â'r elfen froceriaeth, bydd yna gynhadledd a ffair fasnach i hyrwyddo'r diwydiant bwyd a diod Cymru. Blas Cymru - Adroddiad o'r digwyddiad (Saesneg yn unig) Hoffech chi ddod i ddigwyddiad Blas Cymru 2021? Cofrestrwch eich diddordeb yma