Pontio’r Bwlch i Gyfleoedd Uwchraddio Cynaliadwy
Flwyddyn ar ôl ei sefydlu, mae aelodau grŵp diddordeb arbennig y Clwstwr Uwchraddio Cynaliadwy, Pontio’r Bwlch, yn pwyso a mesur sut mae ffurfio’r grŵp wedi bod o fudd i’w aelodau mewn cyfres o fideos fel rhan o Fis Hanes Pobl Dduon. Nod Pontio'r Bwlch, a ffurfiwyd yn 2021, yw mynd i’r afael â’r rhwystrau y mae entrepreneuriaid o leiafrifoedd ethnig ac aelodau o’r gymuned yn eu hwynebu o ran dechrau a thyfu busnesau, fel y...