Rydym ni’n defnyddio JavaScript i osod y rhan fwyaf o’n cwcis. Yn anffodus, nid yw JavaScript yn rhedeg ar eich porwr, felly ni allwch newid eich gosodiadau trwy ddefnyddio’r dudalen hon. I reoli eich gosodiadau cwcis trwy ddefnyddio’r dudalen hon, rhowch gynnig ar droi JavaScript ymlaen yn eich porwr.
Mae Bwyd Cymru Bodnant wedi cael ei enwi’n Enillydd Rhanbarthol Cymru yn y Gwobrau Manwerthwyr Siopau Fferm a Delis 2021, am drawsnewid ei fusnes sy’n gaffaeliad go iawn i gymuned gogledd Cymru.
Ar 1 Hydref 2021, bydd y gyfraith o ran labelu alergenau ar fwyd wedi’i becynnu ymlaen llaw i’w werthu’n uniongyrchol (PPDS) yn newid. Mae hyn yn golygu y bydd yn rhaid i unrhyw fusnesau bwyd sy’n gwerthu bwyd PPDS gynnwys rhestr gynhwysion lawn ar label y cynnyrch gyda chynhwysion alergenaidd wedi’u pwysleisio yn y rhestr honno.
Magwyr, y DU, Gorffennaf 2021, mae Grŵp Bragu Budweiser y DU ac Iwerddon, sy'n rhan falch o AB InBev y DU Cyf., yn croesawu'r AS, y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd, Lesley Griffiths, i'w Fragdy ym Magwyr, De Cymru ar 20 Gorffennaf.
Mae llu o restriadau newydd mewn archfarchnad i gynhyrchwyr cynnyrch llaeth Cymru wedi'i groesawu gan Lesley Griffiths, Gweinidog dros Faterion Gwledig a Gogledd Cymru, a'r Trefnydd.
Mae gwinllan fach o Sir Fynwy wedi sicrhau medal aur yng Ngwobrau Gwin y Byd Decanter yn erbyn rhai o ranbarthau cynhyrchu gwin mwyaf sefydledig y byd.