Cafodd y beirniaid eu calonogi gan yr angerdd a’r gobaith am y diwydiant lletygarwch a ddangoswyd gan bawb oedd yn ymwneud â Phencampwriaethau Coginio Rhyngwladol Cymru (WICC) mewn tridiau o gystadlu. Roedd croeso mawr i’r achlysur blynyddol, poblogaidd, a drefnir gan Gymdeithas Goginio Cymru (CAW), ar gampws Grŵp Llandrillo Menai yn Llandrillo-yn-Rhos wedi absenoldeb o ddwy flynedd oherwydd y pandemig. Y prif noddwr yw Bwyd a Diod i Gymru, yr adran yn Llywodraeth Cymru sy’n...
Marchnad Bwyd a Diod Cymru
Mae blas Cymru yn rhywbeth y dylai pawb ei brofi! Os ydych chi yng ngyffiniau Ely’s Yard (oddi ar Brick Lane yng nghanol yr East End) ar Chwefror 26ain a 27ain, galwch draw i gwrdd â rhai o gynhyrchwyr bwyd a diod Cymru a darganfod eu cynnyrch hynod flasus, wrth i ni baratoi i ddathlu Dydd Gŵyl Dewi ar Fawrth 1af. Dewch i weld ein cegin deithiol a blasu amrywiaeth eang o fwyd a diod...
Cyfle i roi cynnig ar fwyd a diod o Gymru cyn y rygbi yn Llundain
Mae gan bob un ohonyn nhw stondin ym Marchnad Cynhyrchwyr #CaruCymruCaruBlas #LoveWalesLoveTaste yn Ely’s Yard, ger Brick Lane yng nghanol Dwyrain Llundain. Bydd cynhyrchwyr fel The Coconut Kitchen o Gonwy, Black Mountain Roast o’r Gelli Gandryll a Distyllfa Ysbryd Cymru o Gasnewydd yn arddangos eu cynnyrch. Bydd cyfanswm o 16 o fusnesau o Gymru ac maen nhw’n annog pobl i alw heibio i roi cynnig ar eu cynnyrch gwych. Bydd Hannah Turner o Brooke's Wye...
Sioe Deithiol Bwyd a Diod Cymru
Dewch i flasu rhywbeth arbennig o Gymru ar Ddydd Gŵyl Dewi! I ddathlu Dydd Gŵyl Dewi eleni, rydyn ni’n mynd â’n cynhyrchwyr bwyd a diod gorau ar daith. Bydd ein cegin deithiol yn ymweld â Bryste, Llundain a Lerpwl ble gallwch chi flasu amrywiaeth eang o fwyd a diod Cymreig, o bice ar y maen traddodiadol wedi’u pobi’n ffres i Selsig Morgannwg a chrempogau lafwr gwyrdd sawrus.
Trafodaeth Tir Sy’n Profi Amaeth-Roboteg Cenedlaethol.
Mae prosiect a ariennir gan SBRI/Arloesi DU yn defnyddio gweithgareddau rhyngweithiol fel arolygon, cyfweliadau un-i-un a gweithdai rhithwir a hwylusir i gyflwyno adroddiad dichonoldeb cynhwysfawr sy'n ystyried: Yr heriau sy'n wynebu'r sector bwyd-amaeth ar hyn o bryd ac yn y Dyfodol Yr arbenigedd roboteg sy'n ehangu a allai fynd i'r afael â heriau; Y model dylunio, adnoddau, sgiliau a busnes gorau posibl ar gyfer Sail Profi Roboteg Bwyd-Amaeth; a Y berthynas rhwng ffactorau pwysig fel...
Gulfood Dubai 2023
Mae recriwtio ar y gweill erbyn hyn i arddangos gyda Llywodraeth Cymru o dan y fanner Bwyd a Diod Cymru yn sioe Gulfood, Dubai 20 Chwefror - 24 Chwefror 2023. Nodwch y dyddiad cau ar gyfer derbyn eich ffurflen cais i arddangos yw'r 24 Hydref 2022. Dewch o hyd i fanylion llawn y pecyn a chostau stondin ynghyd â'ch ffurflen gais i arddangos ar y stondin
Sgiliau Bwyd Cymru – yn helpu busnesau gweithgynhyrchu bwyd a diod i fod yn fwy cynaliadwy
Mae datblygu cynaliadwy wrth wraidd ein deddfwriaeth sefydlu yma yng Nghymru ac i gefnogi Llywodraeth Cymru i gyflawni ei thargedau ar gynaliadwyedd, mae prosiect Sgiliau Bwyd Cymru a gyflenwir gan Lantra, wedi gweithio’n ddiweddar ar y cyd â Cynnal Cymru ac Eco Studio i ddatblygu Rhaglen Hyfforddiant Cynaliadwyedd yn benodol ar gyfer y diwydiant gweithgynhyrchu bwyd a diod. Pwrpas y cwrs hyfforddi yw rhoi'r wybodaeth a'r sgiliau i gyfranogwyr ddatblygu systemau a gweithredoedd sy'n briodol...
Gulfood, Dubai 13 – 17 Chwefror 2022
Mae cynhyrchwyr bwyd a diod o Gymru wedi dychwelyd o Gulfood, Dubai yn ddiweddar (13 – 17 Chwefror 2022), yr arddangosfa fasnach ryngwladol gyntaf a fynychwyd gan yr Is-adran Fwyd mewn dwy flynedd oherwydd cyfyngiadau Covid-19. Rhoddodd y sioe fasnach gyfle i gwmnïau arddangos eu cynnyrch i lu o brynwyr a dosbarthwyr wyneb yn wyneb unwaith eto, gan ddangos eu bod yn dal i fod ar agor ar gyfer busnes ac yn ceisio sicrhau cyfleoedd...
Prentisiaid yn chwarae rhan bwysig mewn bragdy
Mae prentisiaid Budweiser wedi cwrdd â’r Gweinidog Materion Gwledig, Lesley Griffiths, a thrafod manteision mynd yn brentis gyda’r cwmni. Yn ystod eu hymweliad â’r Senedd yn ystod Wythnos Prentisiaid Cymru, cafodd 10 o brentisiaid y cwmni bragu gyfle i siarad am eu gwaith gyda’r cwmni ar ei safle ym Magwyr ynghyd â’u gobeithion at y dyfodol. Mae Wythnos Prentisiaid Cymru yn tynnu sylw at waith caled ac ymroddiad prentisiaid a chefnogaeth ac ymrwymiad eu cyflogwyr...
CYDWEITHREDU YN DOD Â MÊL AC IEIR YNGHYD
Mae awydd i warchod a gwella’r boblogaeth gwenyn a pheillwyr yng Nghymru wedi arwain at brosiect arloesol rhwng dau fusnes sydd, yn ôl pob golwg, yn hollol wahanol. Er eu bod yn dod o wahanol rannau o’r diwydiant bwyd, mae gan Ellis Eggs Ltd a Bee Welsh Honey awydd cyffredin i hybu’r nifer o wenyn a pheillwyr a thynnu sylw at eu heffaith hollbwysig ar yr amgylchedd. Mae Jason Ellis, perchennog y cwmni wyau o...