Dewch i siarad a'r tim am gynyddu eich busnes bwyd neu ddiod! Rydyn ni’n crwydro’r ffyrdd gyda’n Cymorthfeydd Uwchraddio. Ymunwch â ni am sgwrs gyfrinachol gyda’n harbenigwyr uwchraddio am eich cynlluniau i dyfu eich busnes a sut gallwn ni eich helpu i’w gwireddu.
Cefnogi diwydiant bwyd a diod cynaliadwy yng Nghymru
Gweledigaeth strategol Llywodraeth Cymru yw adeiladu diwydiant bwyd a diod Cymreig cryf a bywiog gyda chadwyni cyflenwi cynaliadwy sydd ag enw da byd-eang am ragoriaeth ac sydd ag un o’r cadwyni cyflenwi mwyaf amgylcheddol a chymdeithasol gyfrifol yn y Byd.
CYNHYRCHWYR BWYD A DIOD O GYMRU AM GAEL BLASU LUNCH! 2022
Mae grŵp o gynhyrchwyr bwyd a diod o Gymru ar eu ffordd i Lundain i fwynhau lunch! – y digwyddiad hanfodol i’r sector bwyd i fynd (Medi 14 a 15). Cynhelir y digwyddiad hwn yn ExCel Llundain a chynhelir ei chwaer-sioeau Commercial Kitchen a Casual Dining yn yr un lle. Mae lunch! sy’n cynnig toreth o fwydydd a diodydd blasus, rhwydweithio, seminarau, a’r dechnoleg ac arloesi diweddaraf yn siop un alwad i fusnesau bwyd i...
Cwmni coffi o Gymru yn cael blas ar lwyddiant wrth ennill gwobr ranbarthol Great Taste
Mae cwmni coffi o orllewin Cymru yn dathlu ar ôl derbyn clod mawr yng ngwobrau Great Taste Golden Fork 2022. O’r saith cynnyrch Cymreig a gafodd y brif anrhydedd o 3 seren aur yng ngwobrau Great Taste 2022, dyfarnwyd Golden Fork Cymru i Bay Coffee Roasters am eu coffi Indonesian Sumatran Masnach Deg Organig. Mae coffi Bay Coffee Roasters yn cael ei rostio yn eu safle rhostio yn Nhanygroes, yn edrych dros Fae Ceredigion. Mae...
Lansiad y Pasbort Gyrfaoedd newydd yn Nhŷ’r Cyffredin
Wedi’i lansio gan y National Skills Academy for Food and Drink (NSAFD) a’r Food and Drink Federation (FDF), bydd y Pasbort Gyrfaoedd yn cyflymu’r broses o’ch rhoi ar restrau byr am gyfweliadau a chynefino mewn swyddi newydd, gan arbed amser ac arian i wneuthurwyr, a rhoi talent newydd awyddus ac ymroddedig ar y trywydd cyflym i mewn i’r sector Ymgynullodd cynulleidfa o Aelodau Seneddol, Gweision Sifil a phobl ddylanwadol o’r byd gweithgynhyrchu Bwyd a Diod...
Sêr bwyd a diod Cymreig Great Taste yn disgleirio
Mae Great Taste, sef gwobrau bwyd a diod mwyaf poblogaidd y byd, wedi cyhoeddi ei sêr o 2022, ac mae llu o gynhyrchion bwyd a diod blasus o Gymru cael sêl bendith aur. Mae 182 o gynhyrchion Cymreig rhyfeddol, yn amrywio o gynhyrchwyr crefftus annibynnol bach i ddosbarthwyr ar raddfa fawr, wedi bod yn llwyddiannus yng ngwobrau 2022, gyda 129 o gynhyrchion yn cael 1-seren, 46 yn derbyn 2 seren a 7 yn ennill y...
Mwy na 100 o bobl yn cael gwaith yn sector bwyd a diod Cymru
Cafodd ymgyrch Gweithlu Bwyd Cymru ei lansio yn gynharach eleni i annog pobl i ystyried gyrfa yn niwydiant bwyd a diod Cymru ac i ddangos y cyfleoedd cyffrous ac amrywiol y mae’r diwydiant yn eu cynnig. Yn sgil llwyddiant yr ymgyrch i helpu pobl i gael hyd i waith, mae hi wedi cael ei hestyn tan ddiwedd mis Tachwedd. Gan gydweithio’n glos â busnesau, targedwyd amrywiaeth o dalentau, gan gynnwys y rheini oedd newydd adael...
Parth Gyrfaoedd Bwyd a Diod yn Sioe Frenhinol Cymru (18-21 Gorffennaf 2022)
Mae tair blynedd wedi mynd heibio ers i ni agor ein drysau i ddarpar newydd-ddyfodiaid i’r diwydiant bwyd a diod yn Sioe Frenhinol Cymru ond erbyn hyn rydym yn ôl yn well nag erioed ac am ymuno â llawer o bartneriaid gan gynnwys cyflenwr mwyaf Cymru o gynnyrch Cymreig, sef Puffin Produce Sir Benfro. Nod Parth Gyrfaoedd Bwyd a Diod 2022 yw arfogi’r hen a’r ifanc gyda’r modd a’r ffyrdd i benderfynu, cynllunio a chystadlu...
PA FATH O GYLLID?
SYDD YN IAWN I'CH BUSNES BWYD NEU DDIOD GYMREIG Ymunwch â’r digwyddiad Clwstwr Uwchraddio Cynaliadwy hwn i ddysgu ac ymgyfarwyddo â byd cymhleth cynhyrchion cyllid. Bydd hyn yn eich galluogi chi fel perchnogion/rheolwyr busnes i ddewis y fath o gyllid mwyaf priodol a chost effeithiol ar gyfer anghenion eich busnes. Am rhagor o wybodaeth, cliciwch yma
Cwmnïau bwyd a diod o Gymru yn gobeithio sicrhau cytundebau yn Sioe Frenhinol Cymru
Wrth i uchafbwynt y calendr amaethyddol, Sioe Frenhinol Cymru, ddychwelyd yr wythnos nesaf (18-21 Gorffennaf), bydd Bwyd a Diod Cymru Llywodraeth Cymru yn cynnal Lolfa Masnach Busnes yn y Neuadd Fwyd, gan roi cyfle i gwmnïau bwyd a diod ledled Cymru i gwrdd â phrynwyr o bob sector, gan gynnwys gwasanaethau bwyd, manwerthu, cyfanwerthu, caffael cyhoeddus a lletygarwch. Bydd y Lolfa Fusnes yn darparu arddangosfa o’r 60 o gynhyrchwyr sy’n arddangos yn y Neuadd Fwyd...