Rydym ni’n defnyddio JavaScript i osod y rhan fwyaf o’n cwcis. Yn anffodus, nid yw JavaScript yn rhedeg ar eich porwr, felly ni allwch newid eich gosodiadau trwy ddefnyddio’r dudalen hon. I reoli eich gosodiadau cwcis trwy ddefnyddio’r dudalen hon, rhowch gynnig ar droi JavaScript ymlaen yn eich porwr.
Bydd y cwrs hwn yn edrych ar newid yn yr hinsawdd a sut i leihau’r allyriadau nwyon tŷ gwydr a gynhyrchir gan y sector amaeth gan ddefnyddio gwahanol strategaethau rheoli tir
Mae’r cwrs hyfforddiant hwn yn cynnwys y tri maes canlynol: Adnabod rhywogaethau anfrodorol goresgynnol fflora a ffawna, adnabod rhywogaethau niweidiol ac adnabod a rheoli rhywogaethau Fallopia (clymog Japan).
Gwres adnewyddadwy yw cynhyrchiant gwres o dechnolegau a ystyrir yn adnewyddadwy megis Biomas, Pympiau Gwres, Hylosgi Bio-nwy a Dŵr poeth Domestig Solar (SDHW) / Solar Thermol.
Mae Coedwigaeth Gorchudd Parhaus (CGP) yn osgoi cwympglirio ac yn creu coedwigoedd amrywiol cynaliadwy sy’n lleihau risgiau sy’n deillio o’r newid yn yr hinsawdd a bygythiadau biotig.
Mae’r modiwl hwn yn rhoi cyflwyniad ar bwysigrwydd peillwyr a sut y gall camau syml wrth ffermio da byw ar laswellt gynnig bwyd i wenyn a pheillwyr eraill.
Nod y modiwl yw rhoi cyfle i ddysgwyr feithrin gwybodaeth a dealltwriaeth o baratoi, gyrru a defnyddio tractorau a pheiriannau cysylltiedig yn ddiogel ac effeithlon.
Trwy wneud gwelliannau bach gall ffermwyr llaeth wneud arbedion ynni sylweddol. Mae'r modiwl hwn yn canolbwyntio ar brosesau sy'n defnyddio'r mwyaf o ynni ar fferm laeth: cynaeafu llaeth, oeri llaeth, a gwresogi dŵr ar gyfer glanhau ac yn archwilio sut...