Cymhorthdal o hyd at 80% ar gael ar gyfer cyrsiau hyfforddiant i unigolion sydd wedi cofrestru

Amrywiaeth eang o gyrsiau byr ar gael

Rhwydwaith o ddarparwyr hyfforddiant cymeradwy wedi’u lleoli ledled Cymru

Mwy o wybodaeth

Clinigau samplo a chyngor ar ystod o bynciau. Bydd pob busnes sydd wedi cofrestru gyda Cyswllt Ffermio yn gymwys i wneud cais ar gyfer hyd at ddau glinig. Caiff y clinigau eu darparu gan ymgynghorwyr annibynnol.Gwneud cais

Cyfle i gael cyngor un i un gydag ymgynghorydd ar eu pwnc arbenigol. Bydd y gymhorthfa yn eich galluogi i gael cyngor a chyfarwyddyd sy’n benodol i’ch busnes. 

Cliciwch yma i weld rhai o'r pynciau sydd ar gael 

Cyswllt Ffermio - eich helpu chi i yrru eich busnes yn ei flaen

Mae ein rhaglen yn cynnig cefnogaeth sy’n trawsnewid rhagolygon busnes miloedd o ffermwyr a choedwigwyr.

Mae nifer o’r gwasanaethau wedi eu hariannu yn llawn, tra bod eraill yn cael eu hariannu hyd at 80%

Er mwyn cael budd o’r cyfan sydd ar gael, bydd raid i chi gofrestru am y rhaglen. Bydd angen i’r rhai oedd wedi cofrestru ar y rhaglen flaenorol ail-gofrestru.

Gwiriwch y meini prawf cymhwysedd, sydd wedi eu hehangu yn awr i gynnwys rhagor o ffermwyr a choedwigwyr gyda daliadau llai, a chategorïau newydd ar gyfer contractwyr hunangyflogedig a busnesau bwyd.

Gyda’n cefnogaeth ni gallech:

  • gael budd o gefnogaeth fusnes cymhorthdaledig, wedi ei deilwrio i’ch anghenion busnes
  • leihau taliadau allan a chynyddu effeithlonrwydd ar draws pob maes o’ch busnes
  • feincnodi eich perfformiad a gweithio tuag at gynnydd a thwf
  • adnabod meysydd i’w gwella a dod o hyd i atebion i broblemau
  • ddatblygu eich sgiliau fel rhan o’n rhaglen datblygiad proffesiynol parhaus/dysgu gydol oes
  • gael gwybod am y datblygiadau technolegol diweddaraf trwy ddatblygiadau yn y diwydiant a’r prosiectau ymchwil diweddaraf
  • rhannu arfer da a chael budd o wybodaeth ffermwyr eraill, arbenigwyr y diwydiant ac ymchwil academaidd
  • gael eich ysbrydoli gan syniadau newydd a dod o hyd i ffyrdd mwy effeithlon a blaengar o weithio

| Newyddion
Mae Cyswllt Ffermio yn cyhoeddi siaradwyr o bob rhan o’r sector teledu a chyfryngau cymdeithasol ar gyfer digwyddiad Arloesi ac Arallgyfeirio eleni.
4 Fedi 2023   Mae Cyswllt Ffermio wedi cyhoeddi siaradwyr o bob rhan o’r sector teledu a’r…
| Newyddion
Ffermwyr yn gweld gwerth mewn dysgu rhwng cyfoedion i wella iechyd traed gwartheg
31 Awst 2023   Yn ôl astudiaeth bwysig newydd yng Nghymru sy'n cynnwys mwy na 5,400 o wartheg…
| Newyddion
Cyswllt Ffermio yn ychwanegu modiwl bwydo defaid newydd at raglen hyfforddiant
30 Awst 2023   Gall ffermwyr defaid yng Nghymru ddysgu am strategaethau maeth ar gyfer eu…

Digwyddiadau

25 Medi 2023
Gweminar Cynllun Cynefin Cymru
Mae Llywodraeth Cymru yn rhagweld lansio cynllun Cynefin...
26 Medi 2023
Rheolau Rheoli Llygredd Amaethyddol yng Nghymru
Llandeilo
Mae Rheolau Rheoli Llygredd Amaethyddol (Cymru) 2021...
26 Medi 2023
Rheoli Parasitiaid Defaid 2 - Clafr, Llau a Llyngyr yr Iau
Llandeilo
Bydd mynychwyr y gweithdy yn dysgu am y sefyllfa bresennol...
Fwy o Ddigwyddiadau
Skip to content