Rydym ni’n defnyddio JavaScript i osod y rhan fwyaf o’n cwcis. Yn anffodus, nid yw JavaScript yn rhedeg ar eich porwr, felly ni allwch newid eich gosodiadau trwy ddefnyddio’r dudalen hon. I reoli eich gosodiadau cwcis trwy ddefnyddio’r dudalen hon, rhowch gynnig ar droi JavaScript ymlaen yn eich porwr.
Mae jamiau, marmaledau a siytnis llwyddiannus Radnor wedi cyrraedd 30 o siopau Spinneys ledled Abu Dhabi, Dubai a thu hwnt mewn pryd ar gyfer arddangosfa Gulfood eleni. Mae Radnor Preserves, o galon Cymru, wedi cael ei enwi fel un o'r gwneuthurwyr marmalêd crefftus gorau yn y byd, gan ennill Aur Dwbl yng Ngwobrau Marmalêd y Byd, yn fwyaf nodedig.
Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi gweledigaeth strategol ar gyfer y diwydiant bwyd a diod yn y dyfodol wrth iddi osod ei golygon, dros y blynyddoedd nesaf, i fod yn arweinydd byd-eang ym maes cynaliadwyedd.
Gan nad yw teithio rhyngwladol yn opsiwn ymarferol ar hyn o bryd oherwydd pandemig y Coronafeirws, mae cwmnïau bwyd a diod Cymru yn croesawu'r ffordd newydd o wneud busnes yn rhithwir.
Rydym yn gwahodd ceisiadau oddi wrth aelodau Clwb Allforio Bwyd a Diod Cymru i gymryd rhan mewn Ymweliad Datblygu Masnach rhithwir yn targedu y Swistir, a gefnogir gan Bwyd a Diod Cymru.
Er na all pobl ymweld â Chanolfan Diwydiant Bwyd ZERO2FIVE oherwydd pandemig COVID-19, rydym yn dal i gynnal ein digwyddiadau Canolfan Diwydiant Bwyd Meet ZERO2FIVE ar-lein fel y gall cwmnïau ddarganfod mwy am y gefnogaeth y gallwn ei chynnig.