Ddydd Gŵyl Dewi eleni, bydd ymwelwyr â Chastell Caerdydd yn gallu dangos eu bod wrth eu boddau â bwyd a diod o Gymru drwy rannu ffotograffau o osodiad cennin Pedr ar ffurf calon a gomisiynwyd yn arbennig ar gyfer yr achlysur. Mae'r gosodwaith yn cynnwys miloedd o gennin Pedr ac fe’i crëwyd fel rhan o ymgyrch #CaruCymruCaruBlas #LoveWalesLoveTaste o dan Raglen Llywodraeth Cymru i Ddatblygu Masnach mewn Bwydydd a Diodydd o Gymru. Mae'r gosodwaith, sydd...
Busnesau o Gymru yn teithio i Gulfood ar gyfer ymgyrch allforio
Bydd cynhyrchwyr bwyd a diod o Gymru yn teithio i Dubai yn ddiweddarach y mis hwn i fynychu Gulfood, un o arddangosfeydd masnach bwyd a diod mwyaf y byd sy’n ymestyn allan i wledydd allweddol o fewn rhanbarth y Dwyrain Canol a Gogledd Affrica (MENA). Bydd Gulfood yn cael ei gynnal rhwng 20-24 Chwefror yng Nghanolfan Masnach y Byd Dubai, ble bydd brandiau rhyngwladol yn arddangos eu cynhyrchion a’u gwasanaethau bwyd a diod diweddaraf. Mae'r...
Yr holl gynhwysion i helpu busnes yn y Fflint i dyfu
Mae’r Pudding Compartment, a sefydlwyd gan Steve West yn 2007 ac sydd wedi’i leoli ar Ystad Ddiwydiannol Manor, yn cynhyrchu amrywiaeth o gynhyrchion becws fel cynhyrchion pobi hambwrdd, cwcis, cynhyrchion cyflym a theisennau torth. Mae cyfleuster newydd y cwmni yn golygu bod y busnes wedi mwy na dyblu ei ardal gynhyrchu a buddsoddi mewn offer newydd. Mae’r Pudding Compartment wedi cael mwy na £100,000 gan Gynllun Buddsoddi mewn Busnesau Bwyd Llywodraeth Cymru i gefnogi’r prosiect...
Cwmni coffi o Gymru yn sicrhau cytundeb newydd yn yr Unol Daleithiau a Chanada
Mae'r Gweinidog Materion Gwledig Lesley Griffiths wedi llongyfarch Ferrari's Coffee ym Mhen-y-bont ar ôl i'r cwmni sicrhau cytundeb newydd fydd yn gweld eu cynnyrch ar gael yn yr UDA a Chanada y flwyddyn nesaf. Aeth y Gweinidog i weld y cyfleusterau a chlywed sut mae cefnogaeth Llywodraeth Cymru wedi helpu'r cwmni i sicrhau cytundeb sylweddol i gyflenwi tri o'i gynnyrch i fanwerthwr mawr ar draws yr Iwerydd. Daw'r newyddion wrth i Lywodraeth Cymru gyhoeddi yn...
Diogelu Hawliau Gweithwyr yn y Sector Bwyd a Diod yng Nghymru
Bydd Sgiliau Bwyd Cymru, gan weithio mewn partneriaeth â Chyfarwyddiaeth Partneriaeth Gymdeithasol, Cyflogadwyedd a Gwaith Teg Llywodraeth Cymru, yn cynnal 3 gweithdy ar-lein ym mis Ionawr 2023 i roi cyfle i ddysgu mwy am hawliau gweithwyr yng nghyd-destun y sector bwyd a diod yng Nghymru. Bydd y rhai sy’n cymryd rhan yn clywed ac yn ymgysylltu â siaradwyr o amrywiaeth o sefydliadau sy’n hyrwyddo hawliau gweithwyr ac yn mynd i’r afael â cham-drin a chamfanteisio...
Sgiliau Bwyd Cymru – Gweithdai Hyfforddiant Datgarboneiddio
Gan adeiladu ar lwyddiant prosiect peilot a gynhaliwyd yn yr hydref, bydd Sgiliau Bwyd Cymru, mewn partneriaeth â GEP Environmental, yn cyflwyno cyfres o weithdai hyfforddiant datgarboneiddio yn gynnar yn 2023. Mae'r gweithdai'n canolbwyntio ar godi ymwybyddiaeth o bwysigrwydd symud tuag at sero net i’r sector, Cymru, y DU a’r manteision byd-eang drwy ddarparu’r sgiliau cywir i fuddiolwyr i wneud penderfyniadau ar sut y gallant symud tuag at sero net, rhannu arfer gorau gyda chydweithwyr...
Cyhoeddi dyddiadau prif ddigwyddiad masnach bwyd a diod Cymru - BlasCymru/TasteWales 2023
Pryd : 25 - 26 Hydref 2023 Ble : Y Ganolfan Gynadledda Ryngwladol (ICC Cymru), Gwesty'r Celtic Manor, Casnewydd, Cymru Beth : Broceriaeth rhwng prynwyr a busnesau bwyd a diod; Cinio VIP a chyfleoedd i rwydweithio; seminarau, dyfodol cynaliadwy ac arddangosfa. Bydd digwyddiad masnach bwyd a diod rhyngwladol Cymru, BlasCymru/TasteWales, yn cael ei gynnal ar 25 a 26 Hydref 2023, mae’r Gweinidog Materion Gwledig Lesley Griffiths wedi cadarnhau. Mae’r digwyddiad deuddydd a drefnir gan is-adran...
Pontio’r Bwlch i Gyfleoedd Uwchraddio Cynaliadwy
Flwyddyn ar ôl ei sefydlu, mae aelodau grŵp diddordeb arbennig y Clwstwr Uwchraddio Cynaliadwy, Pontio’r Bwlch, yn pwyso a mesur sut mae ffurfio’r grŵp wedi bod o fudd i’w aelodau mewn cyfres o fideos fel rhan o Fis Hanes Pobl Dduon. Nod Pontio'r Bwlch, a ffurfiwyd yn 2021, yw mynd i’r afael â’r rhwystrau y mae entrepreneuriaid o leiafrifoedd ethnig ac aelodau o’r gymuned yn eu hwynebu o ran dechrau a thyfu busnesau, fel y...
Dyfodol disglair i win o Gymru yn dilyn lansiad strategaeth
Mae strategaeth gyntaf o’i math wedi’i lansio i roi ffocws i ddyfodol diwydiant gwin Cymru dros y deuddeg mlynedd nesaf a chynyddu gwerth presennol y sector 10 gwaith yn fwy i gyrraedd £100 miliwn erbyn 2035. Wedi’i datblygu ar adeg hollbwysig i winllannoedd Cymru, gyda chefnogaeth Clwstwr Diodydd Llywodraeth Cymru, mae’r strategaeth a arweinir gan y diwydiant wedi’i chynllunio i sicrhau bod Cymru’n adeiladu ar ei henw da fel cynhyrchydd arbrofol o winoedd amrywiol, yn...
Meithrin perthnasoedd ym marchnadoedd bwyd a diod Asia
Mae dirprwyaeth o ganolfannau bwyd Cymru, dan arweiniad Is-adran Bwyd a Diod Llywodraeth Cymru, wedi ymweld â Singapôr i fynychu Uwchgynhadledd Twf Asia 2022 a chwrdd â busnesau bwyd a diod o Singapôr a rhai rhyngwladol gyda’r nod o hyrwyddo Cymru fel cyrchfan ar gyfer eu buddsoddiad. Roedd datblygu cyfleoedd ar gyfer arloesi cydweithredol a chodi proffil TasteWales/BlasCymru, digwyddiad bwyd a diod blaenllaw Cymru, yn hollbwysig i’r tîm. Dywedodd Gweinidog Llywodraeth Cymru dros Faterion Gwledig...