Cynhyrchwyr o Gymru yn blasu’r Afal Mawr
Mae detholiad o gwmnïau bwyd a diod o Gymru yn mynd i Efrog Newydd i fynychu’r Summer Fancy Food Show 2023 a gynhelir gan y Speciality Food Association yn ddiweddarach y mis hwn. Gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru, bydd cynrychiolwyr o’r cwmnïau yn mynychu’r digwyddiad masnach bwyd arbenigol mwyaf yn America rhwng 25 a 27 Mehefin 2023. Dyma’r ail flwyddyn yn olynol i Lywodraeth Cymru fynd â dirprwyaeth i’r digwyddiad, sy’n un o’r enghreifftiau mwyaf blaenllaw...